Pennaeth Ysgol y Gymraeg yn rhoi’r gorau i’w swydd
26 Gorffennaf 2017
Ar ôl bod yn Bennaeth Ysgol y Gymraeg am dros 20 mlynedd, mae’r Athro Sioned Davies yn camu i lawr a chychwyn ar flwyddyn sabothol, cyn dychwelyd i ddarlithio yn Medi 2018.
Yr Athro Davies oedd y fenyw gyntaf erioed i ymgymryd â rôl Athro coleg ym mhwnc y Gymraeg. Mae wedi chwarae rôl hanfodol bwysig yn natblygiad y ddisgyblaeth yn ogystal â chyfrannu mewn ffyrdd arwyddocaol ym meysydd gwleidyddol, llenyddol a chymdeithasol yng Nghymru.
O dan ei harweinyddiaeth, mae Ysgol y Gymraeg wedi datblygu o ran ei maint a’i hansawdd. Caiff yr Ysgol ei chydnabod erbyn hyn am ei harbenigedd blaenllaw ar draws y ddisgyblaeth ym meysydd astudiaethau canoloesol, caffael, polisïau a chynllunio ieithyddol.
Trawsnewidiol
Yn 2007, cafodd cyfieithiad yr Athro Davies o’r Mabinogi, oedd yn cynnwys nodiadau, ei gydnabod am ei gyfraniad trawsnewidiol yn Saesneg o safbwynt ysgrifennu creadigol, rheoli treftadaeth a thwristiaeth, ac adrodd straeon yn yr oes ohoni.
Mae ei thriniaeth o'r testun, sydd wedi’i ganmol yn fawr, wedi galluogi cynulleidfaoedd modern i ddeall sut byddai gwrandawyr canoloesol wedi ei ddeall ac, yn bwysicach oll, sut byddai wedi cael ei berfformio. Mae casgliad cyfoethog o nodiadau esboniadol a mynegeion o gymorth hefyd er mwyn gwella dealltwriaeth y darllenwr o’r testunau canoloesol hyn.
“Mae llawer o ddatblygiadau cyffrous ar y gorwel – rhaglenni gradd, prosiectau ymchwil a phartneriaethau newydd. Rydw i’n gwybod y bydd yr Ysgol yn mynd o nerth ac edrychaf ymlaen, ar ôl treulio blwyddyn o waith ymchwil, at gyfrannu ymhellach at lwyddiant y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.”
Un iaith i bawb
Yn ogystal â’i llwyddiannau ym maes ymchwil, mae’r Athro Davies wedi cael cryn ddylanwad ar ddatblygiad y Gymraeg yng Nghymru.
Yn 2012, fe gadeiriodd dasglu fu’n gyfrifol am adolygu sut yr addysgir Cymraeg fel ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4, gan edrych yn benodol ar sut i fynd i’r afael â safonau a chyrhaeddiad isel. Erbyn hyn, mae gan yr argymhellion yn yr adroddiad a ddeilliodd o’r adolygiad, ‘Un iaith i bawb: adolygiad o Gymraeg ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4’ (2013), rôl bwysig wrth aildrefnu addysg yn ysgolion Cymru.
Mae’r Athro Davies wedi arwain nifer o gynlluniau arloesol hefyd sydd wedi ennill eu plwyf yn rhan o ddarpariaeth yr Ysgol a’r Brifysgol erbyn hyn. Mae'r rhain yn cynnwys rhaglen Cymraeg i Bawb sydd wedi galluogi cannoedd o fyfyrwyr o’r DU a thu hwnt i ddysgu Cymraeg yn ystod eu cyfnod yng Nghaerdydd. Hi hefyd a arweiniodd y Cynllun Sabothol Cenedlaethol a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cynllun hwn wedi trawsnewid gallu cannoedd o ymarferwyr addysg i addysgu yn Gymraeg.
Dyma farn Dr Dylan Foster Evans fydd yn olynu'r Athro Davies yn Bennaeth yr Ysgol ar 1 Awst 2017: “Nid oes modd gorbwysleisio effaith a dylanwad Sioned ar yr Ysgol ac ym meysydd iaith a llenyddiaeth y Gymraeg...”