Gwobrau Green Gown
26 Gorffennaf 2017
Mae prosiect a ddatblygwyd gan Enactus Caerdydd – cymdeithas yn y Brifysgol sy'n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr wneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol – ar restr fer ar gyfer gwobr Fenter yng Ngwobrau Green Gown 2017.
Cwrs busnes 10 wythnos o hyd yw ‘Gwireddu eich potensial ym myd busnes’. Mae ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn ardal Caerdydd, ac fe’i cyflwynir gydag Ysgol Busnes Caerdydd a Chyngor Ffoaduriaid Cymru.
Mae’r cwrs yn dod ag israddedigion o Ysgol Busnes Caerdydd, ffoaduriaid a cheiswyr lloches ynghyd sydd eisoes wedi ennill graddau neu brofiad gwaith yn eu gwledydd genedigol, i ddatblygu syniadau mentrau cymdeithasol.
Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn y cwrs yn dysgu am dechnegau ‘dechrau busnes’ a sgiliau cyflogadwyedd yn ogystal â datblygu eu hunan hyder a’u sgiliau Saesneg.
Helpu unigolion a chymunedau
Dywedodd yr Athro Tim Edwards o Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae mentrau fel hyn yn dangos sut mae entrepreneuriaeth a syniadau arloesol yn gallu gwneud gwahaniaeth.
“Mae’r ffoaduriaid sy’n astudio gyda ni ac sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun hwn wedi magu hyder drwy gydol y broses i wella eu sefyllfa. Ar yr un pryd, mae’r israddedigion wedi gweld pa mor bwysig mae mentrau cymdeithasol yn gallu bod wrth helpu unigolion a chymunedau i oresgyn rhwystrau.”
Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Llongyfarchiadau i Gymdeithas Enactus ar gael ei henwi ar y rhestr fer ar gyfer un o wobrau Green Gown am gyflwyno sgiliau cyflogadwyedd a thechnegau entrepreneuraidd i geiswyr lloches a ffoaduriaid...”
Cefnogir Enactus Caerdydd gan y tîm Menter a Dechrau Busnes ac mae’n rhan o Enactus UK sy’n sefydliad byd-eang sydd â thimau a arweinir gan fyfyrwyr mewn prifysgolion ledled y byd.
Mae gwaith y Brifysgol gydag Enactus yn amlygu amrywiaeth o ymchwil a gweithgareddau ymgysylltu sy'n cynnwys staff a myfyrwyr yn rhan o Rwydwaith Arloesedd Cyfrifol ehangach (RIN). Mae’r rhwydwaith hwn yn annog partneriaethau er mwyn creu gwerth cymdeithasol ac economaidd, sydd yn adlewyrchu strategaeth Gwerth Cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd.
Mae gwobrau Green Gown yn cydnabod cynlluniau cynaliadwyedd rhagorol prifysgolion a cholegau ledled y DU ac Iwerddon.
Caiff enillwyr gwobrau Green Gown eleni eu cyhoeddi ar 15 Tachwedd 2017 yn The Monastry, Manceinion.