Man gwyrdd yn ennill gwobr
25 Gorffennaf 2017
Mae’r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, gyda chymorth Cymdeithas Cadwraeth a Bywyd Gwyllt Prifysgol Caerdydd, wedi ei henwi’n un o enillwyr Gwobrau Baner Werdd Cadwch Gymru’n Daclus eleni - dynodiad a gydnabyddir yn rhyngwladol am barc neu fan gwyrdd o safon.
Mae 101 o fannau gwyrdd a reolir gan y gymuned yng Nghymru wedi cyrraedd y safon uchel y mae ei hangen i ennill gwobr Baner Werdd Gymunedol sy’n uchel iawn ei bri (roedd 83 yn 2016/17).
Bydd y faner yn cyhwfan yng Ngardd Goffa Chris McGuigan i gydnabod ei chyfleusterau rhagorol a’i hymrwymiad i ddarparu man gwyrdd o safon.
Mannau trefol addas i fywyd gwyllt
Dywedodd Sam Hillman o’r Gymdeithas Cadwraeth a Bywyd Gwyllt: “Rydym wrth ein bodd i fod wedi helpu i weithio tuag at ennill y Wobr Baner Werdd Gymunedol.
“Mae’r cymorth gan Dîm Ymgysylltu’r Fferyllfa a Buglife wedi helpu gwirfoddolwyr o fyfyrwyr i ddysgu rhagor ynghylch creu mannau trefol addas i fywyd gwyllt, ac wedi ein helpu i ddod ynghyd i weithio tuag at ardd gymunedol sy’n addas i bryfed peillio.
“Rydym yn gobeithio y gallwn adeiladu ar y newyddion gwych hyn a pharhau i drawsffurfio tiroedd Adeilad Redwood.”
Effaith fawr
Darperir cynllun Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Fe’i bernir gan arbenigwyr mannau gwyrdd, sy’n rhoi o’u hamser eu hunain i ymweld â darpar safleoedd a’u hasesu yn ôl wyth o feini prawf llym, gan gynnwys safonau garddwriaethol, glendid, rheolaeth amgylcheddol a chynnwys y gymuned.
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Baner Werdd Cadwch Gymru’n Dawel: “Mae Gwobr y Faner Werdd am gysylltu pobl â’r parciau a’r mannau gwyrdd gorau. Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn falch o gynnal y cynllun yng Nghymru, oherwydd gwyddom y gall amgylchedd o safon gael effaith fawr ar ein cymunedau, iechyd, lles, a’r economi.
“Rydym yn falch iawn o fod yn dathlu blwyddyn arall llwyddiannus i Wobr Gymunedol y Faner Werdd. Mae llwyddiant y safleoedd hyn yn dibynnu ar ymrwymiad y gwirfoddolwyr lleol sy'n gweithio'n ddiflino i godi safon ein mannau gwyrdd. Iddyn nhw mae’r diolch fod cynifer o gyfleusterau gwych ar garreg ein drws.”