Gwneud synnwyr o Gymru sy’n newid
25 Gorffennaf 2017
Bydd rhai o arbenigwyr uchaf eu proffil Prifysgol Caerdydd wrth law yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni i wneud synnwyr o gyfnod cynhyrfus a fydd yn effeithio ar Gymru am genedlaethau.
Bydd ergyd bellgyrhaeddol Brexit, sgîl-effeithiau etholiad byrfyfyr rhyfeddol 2017 a dyfodol datganoli yng Nghymru ymhlith rhai o’r pynciau trafod o bwys fydd o dan y chwyddwydr.
Bydd sgyrsiau a thrafodaethau gwleidyddol y Brifysgol yn mynd law yn llaw ag ystod o ddigwyddiadau eraill fydd yn canolbwyntio ar yr iaith Gymraeg a’i diwylliant.
Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn Ynys Môn rhwng 4-12 Awst.
Hunaniaeth genedlaethol
Bydd arbenigwr gwleidyddol Prifysgol Caerdydd, yr Athro Richard Wyn Jones, yn cyflwyno’r dadansoddiad manwl cyntaf ynghylch beth ddigwyddodd yng Nghymru yn ystod refferendwm dramatig yr UE mewn darlith arbennig am 11 o’r gloch fore Iau ym Mhabell y Cymdeithasau 1.
Mae’r Athro Jones yn ceisio egluro pam y bu i fwy na hanner o bobl Gymru bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd er eu bod mewn rhan o’r DU sy’n elwa fwyaf o fod yn aelod o’r UE.
Bydd yn datgelu gwahaniaethau barn dramatig yng Nghymru yn dibynnu ar agweddau tuag at hunaniaeth genedlaethol.
Datblygiadau diweddaraf y broses Brexit yw testun trafodaeth gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym mhabell Prifysgol Caerdydd, hefyd ar y 10fed o Awst (13:00), wrth i Dr Huw Pritchard, Manon George ac Ed Poole geisio egluro hwn, y cymhlethaf o ysgariadau.
Dywedodd yr arbenigwr gwleidyddol, Yr Athro Roger Scully, Cyfarwyddwr Dros Dro Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, fod yr etholiad cyffredinol wedi rhoi ambell ganlyniad nodedig o annisgwyl ac y gellid eu hystyried fel “y pwysicaf ers cenhedlaeth”.
Mae'n archwilio goblygiadau’r etholiad ym mis Mehefin, gan gynnwys ei effaith ar Brexit a pham y gwnaeth y Blaid Lafur ennill yng Nghymru am y chweched tro ar hugain yn olynol, am 14:30 ddydd Mawrth 8 Awst ym Mhabell y Cymdeithasu 2.
Ynys Môn a’r Cynulliad
Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad dros Ynys Môn, fydd yn trin a thrafod Brexit, Ynys Môn a chyfeiriad gwleidyddiaeth Gymreig yn y dyfodol am 16:00 ddydd Mercher 9 Awst ym Mhabell Prifysgol Caerdydd.
Bydd y cynrychiolydd dros Blaid Cymru yn sgwrsio gydag Y Byd ar Bedwar yn nigwyddiad Ynys Môn a’r Cynulliad a drefnwyd mewn partneriaeth ag ITV Cymru Wales.
Bydd datganoli dan y chwyddwydr mwy fyth pan fydd yr Athro Jones a Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru Elin Jones, Aelod y Cynulliad dros Geredigion, yn ystyried dau ddegawd o drosglwyddo pwerau o San Steffan i Gymru.
Cynhelir y drafodaeth, a gadeirir gan y darlledwr BBC Cymru Wales Dewi Llwyd ac a drefnir ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd. BBC Cymru Wales a’r Cynulliad Cenedlaethol, yn Mhabell y Cymdeithasau 2 am 11:30 ddydd Gwener 11 Awst.
Cadeirir dadl y cyfryngau Prifysgol Caerdydd eleni - a gynhelir am 14:00 ddydd Mercher 9 Awst - gan Sian Morgan Lloyd o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, a fydd yn gofyn a yw Cymru’n cael ei phortreadu’n deg ar y teledu.
Mae’r panel o arweinwyr y diwydiant yn cynnwys Sian Gwynedd, Pennaeth Cynhyrchu Cynnwys BBC Cymru Wales; Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C; ac Angharad Mair, Cyfarwyddwr Gweithredol Tinopolis a Chadeirydd BAFTA Cymru.
Caiff y radio ei dro ar y llwyfan pan fydd golygydd BBC Radio Cymru, Betsan Powys, yn rhoi rhagor o fanylion ynghylch cynlluniau cyffrous am orsaf radio Gymraeg newydd.
Cewch wybod beth sydd yn yr arfaeth i BBC Radio Cymru 2 ym Mhabell Prifysgol Caerdydd am 15:00 ddydd Mawrth 8 Awst.
Llais y Maes
Bydd gwasanaeth newyddion digidol cyffrous y Brifysgol, Llais y Maes, yn dychwelyd am y pumed tro, mewn partneriaeth ag S4C, ITV Cymru Wales a’r Eisteddfod Genedlaethol.
Bydd myfyrwyr sy’n astudio yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant i greu cynnwys aml-lwyfan o’r Maes.
Bydd ffigurau blaenllaw o’r cyfryngau a’r byd cyhoeddi yng Nghymru yn ymuno â Dr Siwan Rosser o Ysgol y Gymraeg i drafod sut y gellir ymgysylltu â chynulleidfaoedd ifainc drwy straeon ar lwyfannau print, digidol a’r cyfryngau (Pabell Prifysgol Caerdydd, ddydd Gwener 11 Awst am 13:00).
Bydd cyflwyniadau sy’n berthnasol i Ynys Môn yn benodol hefyd yn nodwedd amlwg, gan gynnwys sgwrs gan Dr Llion Pryderi Roberts, o Ysgol y Gymraeg, am gyfraniad Sir John Morris-Jones fel beirniad eisteddfodol ac adolygydd llenyddol (Pabell Prifysgol Caerdydd, ddydd Llun 7 Awst am 14:00).
Bydd Dr Awen Iorwerth o’r Ysgol Meddygaeth - a draddododd y ddarlith feddygol gyntaf erioed yn Gymraeg gynharach eleni - yn edrych ar rôl Ynys Môn mewn cynhyrchu meddygon nodedig a sut y gellir ysbrydoli cenhedlaeth newydd yn yr un modd (Pabell y Cymdeithasau 2, ddydd Iau 10 Awst am 16:30).
Yn sicr o sbarduno dadl ym mhabell Prifysgol Caerdydd fydd sgwrs gan Siôn Llewelyn Jones, o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, fydd yn gofyn a yw Ysgolion Cyfrwng Cymraeg yn y de dwyrain yn rhai “dosbarth canol” (ddydd Iau 10 Awst am 16:00).
Cysylltu Caerdydd yw thema Prifysgol Caerdydd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2017 - sut mae Prifysgol Caerdydd a’i myfyrwyr, staff a chynfyfyrwyr wedi eu cysylltu â Chymru a’r tu hwnt.