Lansio ap ‘Un Ddiod Un Clic’
3 Mawrth 2015
Mae ap symudol newydd wedi cael ei lansio i wneud i'r cyhoedd yng Nghymru oedi ac ystyried faint o alcohol maen nhw'n ei yfed.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth ag Alcohol Concern, wedi datblygu ap 'Un Ddiod Un Clic' er mwyn cynorthwyo pobl i fonitro yn ddienw faint o alcohol maen nhw'n ei yfed.
Yn ogystal, bydd y llwyfan ar-lein yn cael ei ddefnyddio fel adnodd ar gyfer ymgyrch 'Have a Word', sydd wedi cael ei ddatblygu gan Brifysgol Caerdydd i ysgogi gweithwyr iechyd proffesiynol i gynnig cyngor iechyd i gleifion pan maen nhw'n fwyaf parod i'w dderbyn.
Gall defnyddwyr fewnbynnu nifer y diodydd alcoholig maen nhw wedi'u hyfed, darganfod faint o unedau yw hynny a mesur eu data yn erbyn y canllawiau yfed iachus.
Dywedodd yr Athro Jonathan Shepherd, Cyfarwyddwr y Grŵp Ymchwil Trais a Chymdeithas ac Athro Llawdriniaethau'r Geg a Genol-wynebol Ysgol Ddeintyddiaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae ap newydd 'Un Ddiod Un Clic' yn rhan bwysig o ymgyrch 'Have a Word', sy'n anelu at ostwng deilliannau costus cam-drin alcohol yng Nghymru a thu hwnt."
Crëwyd a datblygwyd brand 'Have a Word' gan Grŵp Ymchwil Trais a Chymdeithas Prifysgol Caerdydd ar ôl cynnal treialon a ddangosodd fod y cyngor a roddwyd mewn ffordd fanwl sy'n manteisio ar "achlysuron addysgadwy" mewn bywydau pobl, er enghraifft pan mae pwythau yn cael eu tynnu o glwyf, yn gallu newid arferion yfed alcohol y dioddefwr i lefel llai peryglus.
Lansiwyd rhaglen hyfforddi 'Have a Word' gan Leslie Griffiths AC, Gweinidog Iechyd Cymru, yn 2012. Hyd yn hyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi hyfforddi dros 7,000 o bobl i ddefnyddio techneg 'Have a Word' gyda chleifion, cydweithwyr, ffrindiau a theulu mewn ffordd gadarnhaol ac adeiladol pan mae eu harferion yfed alcohol yn eu rhoi nhw mewn perygl.
Ar hyn o bryd, mae ap 'Un Ddiod Un Clic' ar gael i'w lawrlwytho yn rhad ac am ddim o'r siop apiau.
Bydd gofyn i ddefnyddwyr fewnbynnu data ynghylch eu defnydd o alcohol ac, yn seiliedig ar y data hwn, byddant yn derbyn gwybodaeth ar nifer yr unedau maen nhw'n eu hyfed a'r perygl mae hynny'n peri i'w hiechyd.
Mae'r data a ddarperir trwy'r ap yn ddienw. Mae'n bosibl y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn edrych ar y data er mwyn eu cynorthwyo nhw i ddeall defnydd alcohol yng Nghymru, oni bai bod y defnyddiwr wedi dewis eithrio ei hun.
Mae ap 'Un Ddiod Un Clic' ar gael i'w lawrlwytho o <http://appstore.com/onedrinkoneclick>.