Mae pobl ifanc am gael mwy o ddewis yn eu profiad TGAU
20 Gorffennaf 2017
Mae astudiaeth ymchwil newydd gan ymchwilwyr o Sefydliad Data a Dulliau Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Queen's Belfast wedi canfod bod myfyrwyr yng Nghymru a Gogledd Iwerddon am gael mwy o ddewis a thegwch yn eu profiad TGAU, gan gynnwys y broses o ddewis pwnc, a'r pwysau i astudio pynciau academaidd penodol.
Mae'r astudiaeth yn defnyddio data o 38 o ysgolion, 18 yng Nghymru ac 20 yng Ngogledd Iwerddon, lle cymerodd 1,600 o fyfyrwyr ran drwy lenwi holiadur a chymryd rhan mewn sesiynau grŵp ffocws. Cyhoeddwyd y canfyddiadau fel un o blith sawl papur gwaith ynglŷn â thema anghydraddoldebau a'r cwricwlwm gan y Ganolfan Astudiaethau Hydredol yn Sefydliad Addysg UCL.
TGAU yw'r prif arholiadau diwedd-ysgol ar gyfer disgyblion 16 oed yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. I lawer o fyfyrwyr yn yr awdurdodaethau hyn, mae'r cwricwlwm rhwng 14-16 oed yn cynnwys meysydd llafur TGAU ar draws nifer o bynciau a ddewiswyd ganddynt.
Er bod TGAU yn cael eu labelu fel yr un arholiad ac mae myfyrwyr yn cael yr un cymhwyster yn y DU, canfu'r astudiaeth eu bod yn cynrychioli cwricwlwm a systemau asesu tra gwahanol ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Dywedodd Dr Rhian Barrance, o Sefydliad Data a Dulliau Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, ac un o gyd-awduron y papur: "Mae'r materion hyn yn fwyfwy perthnasol yng nghyd-destun diwygiadau diweddar i TGAU, sydd wedi arwain at wahaniaethau o ran sut caiff TGAU eu hasesu ar draws y DU.
Ychwanegodd yr Athro Jeanette Elwood, o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Gwaith Cymdeithasol ac un o gyd-awdurdon y papur: "Roedd y data a gasglwyd yn yr astudiaeth yn canolbwyntio ar faterion sy'n ymwneud â dewis a thegwch o ran anghydraddoldebau a wynebir gan fyfyrwyr drwy eu rhaglenni TGAU.
"Ar y cyfan, canfûm fod myfyrwyr yn teimlo bod eu dewisiadau ar lefel TGAU wedi eu cyfyngu, a chafwyd pryderon bod dewisiadau pwnc a manylebau TGAU yn rhywbeth nad oedd unrhyw un yn ymgynghori â nhw yn ei gylch.
Mae gan fyfyrwyr safbwyntiau soffistigedig ynglŷn ag anghydraddoldebau yn y cwricwlwm, y dewis o bynciau, ac asesu, a gallant wneud penderfyniadau ystyriol am eu dyfodol eu hun. Mae'r astudiaeth yn argymell y gellid ymgynghori â myfyrwyr wrth benderfynu pa safbwyntiau i'w hystyried mewn unrhyw ddiwygiad o'r trefniadau asesu, nid yn unig ar gyfer rhaglenni TGAU, ond ar gyfer arholiadau pwysig eraill.
I gael rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth, ewch i: http://www.cls.ioe.ac.uk/inequalitiesccrp