Gwahanol ddinasoedd, gwahanol leisiau
20 Gorffennaf 2017
Bydd pobl o ledled y DU yn rhannu eu straeon am yr haf mewn cynhyrchiad theatr amlieithog newydd, a ddatblygwyd fel rhan o ymchwil ryngddisgyblaethol gan brifysgolion Birmingham, Caerdydd, Leeds a Llundain (Birkbeck ac UCL).
Datblygwyd Summer Times fel menter gydweithredol ddynamig gan brosiect Translation and Translanguaging: Investigating Linguistic and Cultural Transformations in Superdiverse Wards in Four UK Cities (a elwir hefyd Prosiect Tlang) gyda Women & Theatre o Birmingham.
Yn yr ymchwil, mae pedair prifysgol yn y DU yn cydweithio â phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector i ddatblygu ffordd newydd o ddeall rhyngweithio amlieithog yn ninasoedd y DU i gefnogi llunwyr polisïau a chymunedau ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol. Mae'r prosiect arloesol a gynhelir dros bedair blynedd wedi'i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.
Trawsnewid a goruwchamrywiaeth
Esbonia Cyd-gyfarwyddwr y prosiect yng Nghymru, Dr Frances Rock, o Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd: "Yn ein hymchwil, rydym wedi archwilio sut mae pobl yn mynegi eu hunain ar draws ieithoedd wrth gyfeirio at amrywiaeth o destunau, ac mae'r cynhyrchiad hwn yn ystyried y thema honno yng nghyd-destun yr haf. Gan adeiladu ar ein themâu ymchwil, sef trawsnewid a goruwchamrywiaeth, mae Summer Times yn mynegi straeon a gasglwyd o ledled y DU mewn modd unigryw.
Gan adlewyrchu atgofion, traddodiadau a threftadaeth ddiwylliannol gwahanol gymunedau, mae Summer Times yn gasgliad diddorol o straeon sy'n dathlu profiadau cyffredin a phopeth sy'n hyfryd am yr haf.
Mae Summer Times yn teithio o gwmpas y DU ym mis Gorffennaf, a bydd un dyddiad yng Nghaerdydd yng Nghanolfan Oasis ddydd Gwener 21 Gorffennaf (perfformiadau am 2pm a 7pm). Mae'r sioe yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb. I gael rhagor o wybodaeth am y perfformiad, ffoniwch Oasis ar (029) 2046 0424 neu dewch draw i'r sioe.