Hil ynghudd
20 Gorffennaf 2017
Rhaid i fusnesau Prydain roi'r gorau i'r “tawelwch” ynghylch diffyg cynrychiolaeth grwpiau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) mewn swyddi allweddol, yn ôl ymchwil newydd a gomisiynwyd gan Academi Rheolaeth Prydain (BAM) a'r Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) ac a gyd-ysgrifennwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae Delivering Diversity, a noddwyd gan CMI a BAM, yn amlygu'r heriau dydd i ddydd sy'n wynebu rheolwyr BAME, sut caiff materion BAME eu cynrychioli a'u rheoli gan gwmnïau FTSE, a'r argymhellion a nodwyd gan y tîm ymchwil fel prif newidiadau polisi sydd i'w gwneud gan gwmnïau a'r llywodraeth. Mae'r adroddiad yn pwysleisio'r camau ymarferol y gall cwmnïau eu cymryd ar unwaith ac yn y tymor canolig i ddatblygu diwylliannau gwirioneddol ymaddasol, sy'n addas i'r diben mewn cyfnod o her wleidyddol, economaidd a chymdeithasol.
Dim ond chwech y cant o swyddi rheoli yn y DU sy'n cael eu cyflawni gan leiafrifoedd. Er hyn, canfu Delivering Diversity mai dim ond 54 y cant o arweinwyr FTSE100 sy'n mynd ati'n fwriadol i hyrwyddo gwell amrywiaeth yn eu cwmnïau, gyda 21 y cant yn unig yn datgelu eu lefelau amrywiaeth presennol drwy gyhoeddi targedau a data dilyniant.
Darn arloesol o waith
Dywedodd cydawdur yr adroddiad, yr Athro Emmanuel Ogbonna o Ysgol Busnes Caerdydd: "Mae hwn yn ddarn arloesol o waith sy'n cyfuno trylwyredd academaidd gyda dirnadaeth gan arweinwyr busnes mewn cyrff FTSE100...
Mae Delivering Diversity yn dangos diffyg gwybodaeth mewn llawer o gwmnïau ynghylch amrywiaeth eu trefn reoli. Cyfaddefodd wyth deg tri y cant o arweinwyr AD bod angen gwell data ar amrywiaeth BAME arnynt i ysgogi gwelliannau.
Canfu'r adroddiad fod angen i fusnesau gymhwyso'r gwersi yn sgil cynnydd diweddar ar amrywiaeth rhwng y rhywiau, gan gynnwys gosod targedau a chyhoeddi data dilyniant. Mae saith deg pump y cant o'r cwmnïau FTSE100 a arolygwyd bellach yn gosod targedau dilyniant ar gyfer rhywedd ac mae 71 y cant yn cyhoeddi data cysylltiedig. Er mai dim ond 21 y cant sy'n gwneud hynny ar BAME, dywed yn agos i hanner (47 y cant) o'r gweddill eu bod yn disgwyl gosod targedau dros y flwyddyn nesaf.
Meddwl yn wahanol, arloesi a chysylltu
Dywedodd yr Athro Nic Beech, cydawdur yr ymchwil a Dirprwy Bennaeth Prifysgol Dundee: "Mae Delivering Diversity 2017 yn newydd yn y ffordd mae'n dadansoddi ymarfer ym mhrif gwmnïau’r DU, y FTSE100, gan ddangos bod ffordd bell i fynd o ran arweinyddiaeth Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae angen i gwmnïau gael diwylliannau amrywiol, ymaddasol sy'n eu caniatáu i feddwl yn wahanol, arloesi a chysylltu ag amrywiaeth eang o gwsmeriaid. Fodd bynnag, cymharol brin yw’r rhai sy'n arwain y ffordd wrth ddatblygu pobl BAME yn eu trefniadau rheoli. Mae adroddiad Delivering Diversity yn cynnwys astudiaethau achos o enghreifftiau cryf: Aviva, Lloyds Banking Group, RBS, Sainsbury’s a Schroders, a hefyd perfformwyr cryf y tu allan i'r FTSE100 gan gynnwys Google a Virgin Money. Yn gyffredinol fodd bynnag, gwelsom ni mai dim ond 15 y cant oedd yn arwain, 35 yn gweithredu ac roedd 50 y cant yn y categori cychwynnol."
Dywedodd yr Athro Geraldine Healy, cydawdur ac ymchwilydd yn QMUL: "Mae canfyddiadau'r astudiaeth yn nodi bod angen i FTSE100 fabwysiadu mesurau ar frys i sicrhau bod talentau cyflogeion BAME yn cael eu recriwtio, eu cyrchu a'u datblygu’n llawn. Mae ein hymchwil yn cynnig strategaethau ymarferol ar gyfer gweithredu a newid - mae'r amser am esgusodion ar y mater angof hwn wedi hen basio. Yr her nawr yw i'r cwmnïau FTSE100 nodi ymhle maen nhw'n ddiffygiol, ac yna sicrhau'r adnoddau sydd eu hangen i wneud y newidiadau angenrheidiol."
Roedd tîm y prosiect yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol y Frenhines Mary, Llundain, Prifysgol Bradford, Prifysgol Dundee a Phrifysgol St Andrews.
Un canlyniad allweddol i'r ymchwil yw bod CMI a BAM yn galw am weithredu gan fusnesau mewn saith maes allweddol.
Saith Cam Gweithredu
- Rhoi'r gorau i'r tawelwch. Mae angen i arweinwyr ailgychwyn y sgwrs ar hil, dangos ymrwymiad a chyfleu achos busnes clir dros newid i gyflawni amrywiaeth.
- Dysgu o'r agenda rhywedd. Mae busnes wedi dangos bod modd creu momentwm i sicrhau newid, gydag arweinyddiaeth gynhwysol ar bob lefel a thryloywder ynghylch strategaethau, targedau a chynnydd
- Wynebu'r niferoedd: ei fesur, ei reoli, ei adrodd. Mae angen i gwmnïau fesur amrywiaeth BAME ar bob lefel yn y trefniadau rheoli.
- Manteisio ar bŵer nawdd. Mae angen i uwch arweinwyr fynd ati i chwilio am arweinwyr amrywiol newydd a chyfarfod â nhw i'w noddi a chefnogi eu datblygiad.
- Adeiladu amrywiaeth drwy arweinyddiaeth 'lefel nesaf'. Gall modelau rôl a mentoriaid ar y lefel nesaf i fyny - nid modelau rôl o bell ar frig busnes - fod yn rym pwerus ar gyfer newid. Defnyddio modelau arloesol fel cylchoedd mentora a gwrthdroi mentora.
- Bod yn gynhwysol ac yn ymaddasol. Adeiladu diwylliannau ymaddasol sy'n ymateb i'r gwahaniaethau mae pobl yn dod gyda nhw i'r gwaith. Bod yn glir bod y cwmni'n gwerthfawrogi gwahaniaeth fel nad oes unrhyw gyflogai o leiafrif yn cwestiynu ei le.
- Meincnodi a chydweithio. Dylai busnesau gymharu eu perfformiad gydag eraill yn eu sector a chydweithio ar ffyrdd i gyflymu newid.
Mae adroddiad Delivering Diversity sy'n cynnwys astudiaethau achos gan gwmnïau blaenllaw fel Aviva, Google, Lloyds Banking Group, RBS, Sainsbury’s, Schroders, a Virgin Money, ar gael yma. Lansiwyd yr adroddiad 19 Gorffennaf yn y Senedd.