Deall ‘ymwybyddiaeth ofalgar’ mewn bywyd modern
20 Gorffennaf 2017
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llwyddo i gael Grant Prosiect Ymchwil gan Ymddiriedolaeth Leverhulme dan gyfarwyddiaeth Dr Steven Stanley o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.
Bydd ‘Tu Hwnt i Les Personol: Mapio Effaith Gymdeithasol Ymwybyddiaeth Ofalgar yng Nghymru a Lloegr’ yn ceisio deall cwmpas a goblygiadau eang ymwybyddiaeth ofalgar o ran bywyd cyfoes.
Bydd y prosiect, sydd wedi cael cyllid o dros £214,000, yn ymchwiliad nodedig o arwyddocâd ymwybyddiaeth ofalgar fel ffenomenon gymdeithasol.
Er ei fod yn cael ei ddefnyddio’n bennaf fel therapi gwybyddol i drin straen, gorbryder ac iselder, mewn blynyddoedd diweddar mae ‘ymwybyddiaeth ofalgar’ wedi symud allan o'r ystafell therapi a’r ganolfan encilio Fwdhaidd ac i mewn i’r gymdeithas ehangach, gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd Gwladol; llywodraethau Cymru, San Steffan a'r Alban; ysgolion, colegau a phrifysgolion; gweithleoedd; a hyd yn oed apiau ffonau clyfar.
Bellach, mae ymwybyddiaeth ofalgar yn cael ei ddefnyddio nid yn unig fel therapi, ond hefyd i sicrhau lles, hapusrwydd a ffyniant, cynhyrchiant, perfformiad ac effeithlonrwydd; cynaliadwyedd, creadigrwydd a gweithredaeth. Ond beth mae’r defnydd cynyddol o ymwybyddiaeth ofalgar yn ei ddweud wrthym am y byd cymdeithasol yr ydym ni’n byw ynddo ar hyn o bryd?
Dros y cyfnod o dair blynedd, gan ddechrau ym mis Hydref 2017, bydd y prosiect yn ymchwilio i ddarpariaeth ymwybyddiaeth ofalgar yng Nghymru a Lloegr, gan edrych ar ei argaeledd cynyddol, yn benodol ym meysydd iechyd a lles, addysg, busnes, gwleidyddiaeth a chrefydd.
Bydd y tîm ymchwil rhyngddisgyblaethol yn nodi pwy, ble, beth, a sut o ran y gymuned darparu ymwybyddiaeth ofalgar yng Nghymru a Lloegr. Bydd y prosiect yn arwain at greu llyfr yn cofnodi’r canlyniadau yn ogystal â nifer o erthyglau academaidd mewn cyfnodolion, gweithdai, a chyflwyniadau mewn cynadleddau.
Caiff y prosiect ei arwain gan Dr Steven Stanley, seicolegydd beirniadol sydd â diddordeb mewn astudio diwylliannau seicolegol a therapiwtig moderniaeth hwyr mewn perthynas â chyfalafiaeth neo-ryddfrydol. Mae ei ymchwil dros yr wyth mlynedd diwethaf wedi cynnwys 'myfyrio' mewn gwyddoniaeth drwy ymchwilio i ymwybyddiaeth ofalgar fel ffenomen gymdeithasol-ddiwylliannol.
Erbyn hyn, ef yw’r gwyddonydd cymdeithasol mwyaf cyhoeddedig mewn perthynas ag ymwybyddiaeth ofalgar yn y DU ac mae’n dod yn fwyfwy adnabyddus ar draws y byd. Mae ei ymchwil academaidd yn cydweddu â’i 20 mlynedd o ymgysylltu ag arferion myfyriol.
Meddai Dr Stanley "Mae ei ddefnydd eang wedi arwain sylwebwyr i labelu ymwybyddiaeth ofalgar fel 'symudiad'. Er gwaethaf y twf cyflym hwn, mae dal diffyg ymchwil empirig i ddogfennu a dadansoddi'r maes diwylliannol cynyddol hwn..."
"Bydd ein tîm aml-ddisgyblaethol o ymchwilwyr mewn gwyddor gymdeithasol, yn ogystal ag ysgolhaig dyniaethau – arbenigwyr yn yr astudiaeth o ymwybyddiaeth ofalgar, Bwdhaeth, ysbrydolrwydd a thechnolegau rheoli emosiwn – yn cynnig asesiad gwyddonol gymdeithasol hollbwysig o’r ‘symudiad’ ymwybyddiaeth ofalgar fel un o ffenomenon cymdeithasol mwyaf trawiadol ein cyfnod."
Bydd Dr Stanley yn cydweithio â Dr Alp Arat, cymdeithasegydd crefydd ac aelod pwyllgor o’r grŵp astudio Cymdeithaseg Crefydd sy’n rhan o Gymdeithas Cymdeithasegol Prydain; Dr Peter Hemming, darlithydd mewn Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd; a'r Athro Richard King, Athro Astudiaethau Bwdhaidd ac Asiaidd ym Mhrifysgol Caint.