Datgelu agweddau Cymry tuag at aelodaeth yr UE
27 Chwefror 2015
Er gwaethaf dros ddegawd o gyllid sylweddol gan yr Undeb Ewropeaidd, dim ond 17% o bobl Cymru sy'n credu bod y wlad yn elwa ar aelodaeth UE y DU, yn ôl ymchwil newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru'r Brifysgol.
Fe'i cynhaliwyd fel rhan o Arolwg Baromedr Gwleidyddol Cymru a gynhelir yn rheolaidd, a chyflwynwyd y canfyddiadau i gynhadledd Plaid Geidwadol Cymru a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 27 Chwefror.
Pan ofynnwyd, "Os ydynt yn credu bod Cymru'n elwa mwy neu lai ar aelodaeth yr UE na gweddill y DU," dim ond 17% o'r cyfranogwyr oedd o'r farn bod Cymru'n elwa mwy na gweddill y DU ar aelodaeth yr UE. Roedd 30% o bobl o'r farn bod Cymru'n elwa llai ar aelodaeth yr UE na mannau eraill ym Mhrydain, ac roedd 37% yn meddwl bod Cymru'n elwa "tua'r un fath" â rhannau eraill y wlad.
Pan ofynnwyd iddynt a fyddent yn cefnogi neu'n gwrthwynebu cynnal refferendwm ar berthynas Prydain ag Ewrop, roedd 59% o blaid rhoi eu barn ar aelodaeth UE y DU, gyda dim ond 22% yn erbyn rhoi eu barn, a 19% yn dweud Ddim yn Gwybod.
Hefyd gofynnodd yr arolwg sut y byddai pobl yn pleidleisio mewn refferendwm o'r fath, ac roedd y farn yn llawer agosach. Pe cynhelir refferendwm, byddai 44% o bobl Cymru o blaid aros yn yr UE, byddai 36% o blaid gadael. Roedd yr 20% sy'n weddill naill ai'n ansicr neu heb nodi sut y byddent yn pleidleisio.
Gan sôn am y data, dywedodd yr Athro Roger Scully: "Mae Cymru'n eistedd braidd yn anesmwyth yn y canol ar yr UE, rhwng Lloegr sy'n tueddu tuag at amheuaeth a'r Alban lle mae arolygon fel arfer yn dangos agwedd ychydig mwy cadarnhaol tuag at Ewrop.
"Rhywbeth y mae'n rhaid ei fod yn destun pryder i gefnogwyr yr UE yw bod llawer iawn o bobl yng Nghymru fel petaent heb lawer o ymwybyddiaeth o unrhyw fuddion i Gymru o fod yn rhan o aelod-wlad yr UE. Nid yw blynyddoedd o gyllid i Gymru gan yr UE, yn ôl pob golwg, wedi gwneud llawer o argraff ar lawer o'r Cymry."
Roedd yr arolwg yn sail trafodaeth ymylol yng nghynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig, o'r enw "Beth mae Cyhoedd Cymru'n ei Feddwl am yr UE." Ymunodd y ceidwadwyr Cymreig David Melding, Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru, David Davies, AS Mynwy, a Dr Kay Swinburne, ASE y Ceidwadwyr dros Gymru, â Roger Scully i drafod y canfyddiadau.
Cynhaliwyd yr arolwg ar ran Prifysgol Caerdydd gan YouGov. Roedd gan yr arolwg sampl o 1,036 o oedolion o Gymru ac fe'i cynhaliwyd rhwng 19 a 21 Ionawr 2015.