Dathlu a ffarwelio yn nerbyniad graddio’r Ysgol
19 Gorffennaf 2017
Cynhaliwyd seremoni a derbyniad graddio Ysgol y Gymraeg ddydd Llun 17 Gorffennaf 2017.
Neuadd Dewi Sant, yng nghanol y brifddinas, oedd lleoliad y seremoni gyda derbyniad yn dilyn yn Siambr y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Brifysgol. Roedd arlwy blasus ar gael i’r graddedigion newydd a’u teuluoedd wrth iddynt ddathlu’r garreg-filltir.
Eleni, roedd yr Ysgol yn dathlu llwyddiant 36 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Ymysg y graddedigion israddedig, derbyniodd chwe myfyriwr radd Dosbarth Cyntaf. Cyflwynwyd 11 myfyriwr ar gyfer gradd MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd a phedwar ar gyfer PhD.
Yn ystod y derbyniad cyflwynodd yr Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Wobrau Coffa G. J. Williams i dair myfyrwraig israddedig. Gwobrau yw'r rhain er cof am yr ysgolhaig nodedig a fu’n darlithio ym Mhrifysgol Caerdydd am 36 o flynyddoedd. Mae’r gwobrau’n cydnabod cyraeddiadau academaidd a chanlyniadau gradd derfynol y myfyrwyr buddugol.
Erin Ynyr, Bethan Morgan a Mared Harries a ddaeth i’r brig eleni o blith carfan o fyfyrwyr rhagorol. Bu’r tair yn aelodau brwdfrydig a chydwybodol o gymuned yr Ysgol yn ystod eu hastudiaethau ac yn sicr mae dyfodol disglair o’u blaenau, ynghyd â gweddill Dosbarth 2017.
Dywedodd yr Athro Davies: “Hoffwn longyfarch Erin, Bethan a Mared. Maent yn gwbl haeddiannol o’r anrhydedd a dymunaf yn dda iddynt wrth iddynt gamu tu allan i waliau’r Brifysgol a dechrau pennod newydd yn eu bywydau.
“Mae’r diwrnod graddio yn achlysur arbennig iawn i’r myfyrwyr a’u teuluoedd a hefyd i ni fel Ysgol. Rydym yn Ysgol agos a chyfeillgar ac mae’r staff i gyd yn cymryd diddordeb mawr yn hanes a llwyddiannau’r myfyrwyr. Edrychwn ymlaen at gadw mewn cysylltiad a chlywed am ddatblygiadau newydd yn eu bywydau proffesiynol.”
Mae llawer o raddedigion newydd yr Ysgol, yn israddedig ac yn ôl-raddedig, eisoes wedi derbyn swyddi neu ar fin ymgymryd ag astudiaethau pellach sydd yn profi unwaith eto lwyddiant ysgubol yr Ysgol wrth hybu a hyrwyddo sgiliau cyflogadwyedd ar gyfer y Gymru gyfoes.
Roedd y seremoni a’r derbyniad graddio eleni yn nodi diwedd pennod yn hanes yr Ysgol. Ar ôl ugain mlynedd fel Pennaeth yr Ysgol, mae Sioned Davies yn camu o’r neilltu ac yn dechrau blwyddyn ymchwil ddiwedd mis Gorffennaf. Dr Dylan Foster Evans fydd y Pennaeth newydd. Yn ystod y derbyniad fe soniodd am gyfraniad aruthrol Sioned i’r Ysgol, i’r Brifysgol ac i ysgolheictod y Gymraeg. Cyflwynwyd rhodd ar ran staff a myfyrwyr yr Ysgol i Sioned ar ffurf englyn wedi ei gyfansoddi gan Dr Llion Pryderi Roberts, un o’r darlithwyr.