Effaith ar bolisi ac ymchwil
19 Gorffennaf 2017
Mae Dr Gareth Enticott o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio wedi sicrhau lle ar gynllun cymrodoriaeth newydd gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae’n galluogi academyddion i dreulio amser yn gweithio gyda staff y Cynulliad ar brosiectau ymchwil penodol. Bydd Gareth yn dilyn cymrodoriaeth pedwar mis dan y cynllun hwn, lle bydd yn cynnal ymchwil sylfaenol ac eilaidd ar TB mewn gwartheg yng Nghymru.
Gan siarad am y gymrodoriaeth dywedodd Gareth: “Byddaf yn defnyddio’r amser hwn i ddatblygu ymhellach fy ymchwil ar TB mewn gwartheg ac i weithio gyda’r Gwasanaeth Ymchwil i lenwi’r blychau yn ein gwybodaeth.
“Bydd rhywfaint o’m hamser yn cael ei dreulio ar gyfleu canfyddiadau ymchwil gymdeithasol bresennol i Aelodau’r Cynulliad fel eu bod yn deall yn llawn y cymhlethdodau cymdeithasol a realiti’r diciáu mewn gwartheg i ffermwyr a milfeddygon. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at gynnal ymchwil newydd ar rôl milfeddygon tramor yng Nghymru wrth reoli TB ac effeithiau posibl Brexit.”
Defnyddir gwaddol yr ymchwil gan y Gwasanaeth Ymchwil i sicrhau bod Aelodau’r Cynulliad o bob plaid yn cael gwybodaeth well am TB mewn gwartheg.”
Meddai Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC: “Mae’r gymrodoriaeth beilot newydd hon â Phrifysgol Caerdydd yn adeiladu ar y cynnydd rhagorol a wnaed eisoes wrth wella gwaith Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r ffordd newydd hon o weithio’n fuddiol iawn, gan ddod ag arbenigedd allanol ar faterion polisi pwysig i ategu gwybodaeth Aelodau a bydd yn eu cynorthwyo wrth graffu ar Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn cydweddu ein nodau strategol o gynnig cymorth seneddol rhagorol ac ymgysylltu â holl bobl Cymru.”
Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae Gareth wedi bod yn hanfodol wrth amlygu sut mae ‘realiti cymdeithasol’ ffermio ac arferion milfeddygol yn effeithio ar reoli heintiau mewn anifeiliaid. Mae ei ymchwil wedi bod yn allweddol wrth amlygu teimladau o ymddieithrio ymhlith ffermwyr o ran polisi TB, a sut mae eu hymddiriedaeth yn y Llywodraeth a gwyddoniaeth yn dylanwadu arnynt yn defnyddio arferion bioddiogelwch gwahanol. Yn yr un modd, mae ei ymchwil hefyd wedi ystyried sut mae diagnosis TB mewn gwartheg gan filfeddygon yn cael ei lunio gan bwysau cymdeithasol a diwylliannol, a’r llywodraeth yn ailstrwythuro’r proffesiwn milfeddygol. Yn ddiweddarach, mae gwaith Gareth wedi arwain ato’n ystyried perthnasedd profiad Seland Newydd o leihau TB mewn gwartheg ac effeithiau Brexit ar gyflenwi llafur milfeddygol.
Mae gwaith Gareth eisoes wedi’i ddefnyddio gan y Llywodraeth: helpodd i ddatblygu Cynllun Gweithredu Bioddiogelwch Defra, gwerthuso polisïau yng Nghymru fel TB Cymorth, a helpu i ddatblygu gwefan newydd y Llywodraeth i roi gwybodaeth i ffermwyr am yr haint yn eu hardal leol (www.ibtb.co.uk). Gweithiodd o’r blaen ar secondiad yn Llywodraeth Cymru a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Mae Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad yn rhoi ymchwil ddiduedd a sesiynau briffio i 60 Aelod y Cynulliad ac mae bellach yn gweithredu’r cynllun cymrodoriaeth newydd. Caiff gwaddol y cynllun hwn fudd i academia a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd yr holl ganlyniadau, gan gynnwys briffiau ymchwil, ar gael yn gyhoeddus ar ôl cwblhau’r gymrodoriaeth.