Dathlu camau cyntaf AGENDA
18 Gorffennaf 2017
Cynhaliwyd y gynhadledd AGENDA addysgu yng Nghaerdydd yn ddiweddar i ddathlu’r camau cyntaf y mae’r canllaw yn eu cymryd i helpu pobl ifanc i godi ymwybyddiaeth o faterion rhywioldeb yn eu hysgolion.
Ymhlith y siaradwyr yr oedd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland; Rhian Bowen-Davies, Cynghorydd Cenedlaethol Cymru ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod; a’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.
Dan arweiniad yr Athro Emma Renold, mae Agenda yn ganllaw ar-lein rhad ac am ddim, a ddatblygwyd gyda phobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc, i gynnig adnoddau a syniadau ar sut y gallant drafod a herio anghydraddoldebau rhywiol a thrais ar sail rhywedd a thrais rhywiol, a hynny mewn ffordd ddiogel a chreadigol.
Agenda yw’r unig becyn adnoddau yng Nghymru, a’r Deyrnas Unedig, a gynhyrchwyd mewn partneriaeth â phobl ifanc ar gyfer pobl ifanc. Mae'n adnodd dwyieithog, rhad ac am ddim a gellir ei ddarllen ar-lein neu ei lawrlwytho o wefan AGENDA, ynghyd ag amrywiaeth o adnoddau ychwanegol, gan gynnwys cardiau post a phosteri.
Yn ystod y gynhadledd, soniodd yr Athro Renold am yr effaith y mae Agenda wedi’i chael hyd yma, gan gynnwys gweithdai yng nghynhadledd Cymorth i Ferched Cymru, hyfforddiant yr heddlu a digwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Ers ei lansio ym mis Tachwedd, mae ysgolion a grwpiau ieuenctid wedi croesawu Agenda, gyda pherfformiadau drama, siarad cyhoeddus, a digwyddiadau eraill.
Yn ystod y gynhadledd, cafwyd perfformiadau gan fyfyrwyr o ysgolion o bob cwr o’r wlad wedi'u hysbrydoli gan eu rolau fel llysgenhadon Agenda, gan gynnwys cynyrchiadau drama, cyfansoddiadau gwreiddiol a phrosiectau celf.
Roedd hyn yn cynnwys perfformiad o ‘Face to Face’ gan ferch 13 oed o’r enw Charlie, cân a ysgrifennodd am barch, amwysedd a’r heriau sydd ynghlwm â thyfu i fyny. Dilynwyd perfformiad Charlie gyda ffilm fer gan Lauren o Ysgol Tonyrefail a oedd yn cofnodi effaith y gymdeithas gyfoes ar ddealltwriaeth o hunaniaethau LGBTQI.
Drwy gydol y diwrnod, roedd athrawon a gweithwyr proffesiynol yn cael cyflwyniadau a hyfforddiant ar bynciau Agenda gan gynnwys gweithredaeth ffeministaidd; perthnasoedd iach; hawliau LGBT; diwylliant y hun-lun (selfie); gemau digidol a rhagor.
Noddwyd y gynhadledd AGENDA Addysgu gan Brifysgol Caerdydd a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (WEN Cymru), ac fe’i chefnogwyd gan NSPCC/Cymru, Cymorth i Ferched Cymru, a Phrosiect Sbectrwm Hafan Cymru.
Yr Athro Renold yw cadeirydd y grŵp cynghori arbenigol Cymru ar adnoddau addysgu ar ddatblygu perthnasau iach. Sefydlwyd y panel gan Kirsty Williams, a bydd yn cynnig cyngor a chymorth ar faterion yn ymwneud â chyflwyno addysg ar berthnasau iach yn y cwricwlwm.
Darllen blog am y diwrnod.