Myfyriwr wnaeth oroesi canser yn graddio
18 Gorffennaf 2017
Mae myfyriwr o Brifysgol Caerdydd sydd wedi goroesi brwydr dros gyfnod o flwyddyn yn erbyn canser, a oedd yn cynnwys lansio apêl ar-lein wrth erchwyn ei gwely am rywun i roi bôn-gelloedd, pum rownd o gemotherapi, radiotherapi, a thrawsblaniad mêr esgyrn, yn graddio heddiw (dydd Mawrth 18 Gorffennaf, 2017).
Roedd y myfyriwr optometreg, Vithiya Alphons, yn y penawdau am y tro cyntaf pan ddechreuodd hi ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol i annog mwy o bobl i ymuno â chofrestr Anthony Nolan, ar ôl darganfod bod ganddi ddim ond chwe mis i fyw oni bai y gellid dod o hyd i roddwr bôn gelloedd addas.
Ar ôl methu â dod o hyd i rywun addas, rhoddodd mam Vithiya gynnig munud olaf ar achub bywyd ei merch. Nawr, dim ond dwy flynedd ar ôl ei diagnosis o ganser ac ar ôl misoedd o driniaethau anodd, mae Vithiya yn dychwelyd i Gaerdydd i fynd i'r seremoni raddio ar ôl cwblhau ei blwyddyn olaf yn llwyddiannus.
Fy mreuddwyd a fy ngradd
“Roedd dychwelyd i astudio yn anodd iawn oherwydd fy nhriniaethau a system imiwnedd isel, doeddwn i ddim yn gallu mynd i ddarlithoedd, ac roedd yn rhaid i mi wneud hynny ar fy mhen fy hun gyda recordiadau a ffeiliau PowerPoint,” cofia Vithiya.
“Doeddwn i ddim yn mynd i adael i ganser fy rhwystro rhag cael gradd, a rhag gwireddu fy mreuddwyd o ddod yn Optegydd” ychwanega.
Cafodd Vithiya ddiagnosis o Lewcemia Myeloid Aciwt, math ymosodol o ganser y gwaed, yn 2015 ar ôl mynd yn sâl dim ond ychydig ddiwrnodau ar ôl dychwelyd i Gaerdydd i ddechrau ei blwyddyn olaf.
Ar ôl cael ei diagnosis, bu'n rhaid i Vithiya gymryd blwyddyn allan o'r Brifysgol, a threulio deg mis yn cael triniaeth.
Cefnogaeth anhygoel
Mae Vithiya yn pwysleisio mai dim ond drwy gael cefnogaeth a chymorth cannoedd o bobl a'i helpodd i chwilio am roddwr, a'r gefnogaeth anhygoel a gafodd gan ei ffrindiau a'i theulu gartref yn Llundain ac yng Nghaerdydd, y llwyddodd i ddod drwy'r profiad.
Ychwanega Vithiya: “Roedd Prifysgol Caerdydd, a'r Ysgol Optometreg yn benodol, yn eithriadol o gefnogol. Ni fyddwn wedi gallu gwireddu fy mreuddwyd o gwblhau fy ngradd heb fy ngoruchwylwyr anhygoel...”
“I bawb sy'n mynd drwy gyfnod anodd, cadwch ffydd yn Nuw, gweithiwch yn galed, a pheidiwch byth â rhoi'r gorau iddi. Os ydw i'n gallu gwneud hyn, gallwch chi hefyd.”
Bydd Vithiya yn graddio gyda BSc (Anrh) mewn Optometreg ddydd Mawrth 18 Gorffennaf 2017, ac yn dechrau ei swydd gyntaf fel Optometrydd ym mis Awst.