Effaith Brexit ar fwyd
19 Gorffennaf 2017
Yn ôl papur briffio newydd, nid yw'r DU yn barod ar gyfer y newid mwyaf cymhleth i'w system fwyd, sy'n ofynnol cyn Brexit.
Ysgrifennwyd yr adroddiad, a gyhoeddwyd gan yr Uned Ymchwil Polisi Gwyddoniaeth (SPRU) ym Mhrifysgol Sussex, gan arbenigwyr blaenllaw yn maes polisïau bwyd, yr Athro Terry Marsden (Prifysgol Caerdydd), yr Athro Erik Millstone (Prifysgol Sussex) a'r Athro Tim Lang (Prifysgol Dinas Llundain).
Daw i'r casgliad bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn peri risgiau difrifol i fuddiannau defnyddwyr, iechyd y cyhoedd, busnesau a gweithwyr yn y sector bwyd.
Diffyg gweledigaeth y Llywodraeth
Mae ei awduron yn honni mai diffyg gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer bwyd ac amaethyddiaeth y DU sy'n gyfrifol am y risgiau hyn, ac eto, caiff hyd yn oed Brexit 'meddal' effaith andwyol ar brisiau, ansawdd, cyflenwad a'r amgylchedd.
Maen nhw'n rhybuddio nad yw defnyddwyr ym Mhrydain wedi cael gwybod am y goblygiadau 'enfawr' a fydd i'w bwyd, gyda thraean o'u bwyd yn dod o wlad sydd yn yr Undeb Ewropeaidd.
Yr adroddiad 86 tudalen yw'r adolygiad cyntaf o bwys am sut y bydd gadael yr UE yn cael effaith ar fwyd a ffermio yn y DU.
Dywedodd yr Athro Millstone: "Yn yr UE, mae defnyddwyr o'r DU ac iechyd y cyhoedd wedi elwa o safonau diogelwch ledled yr UE a hebddynt, bydd perygl o gael cynnyrch sy'n llai diogel a maethlon yn y DU."
Dywedodd yr Athro Lang: "Mae diogelwch bwyd a chynaliadwyedd yn y DU bellach yn y fantol. Ni all system fwyd sydd ag amcangyfrif stoc o dri i bum diwrnod, adael yr UE ar chwim, gan ei bod yn rhoi 31 y cant o'n bwyd i ni. Mae'r rhai sy'n credu y bydd hyn yn syml yn anwybodus."
Mae'r adroddiad yn edrych ar ddata, polisïau a deunydd sydd ar gael gan y llywodraeth a diwydiant, ar ystod eang o faterion gan gynnwys cynhyrchu, ffermio, cyflogaeth, ansawdd, safonau diogelwch a'r amgylchedd. Mae'n amlygu 16 o faterion allweddol y bydd angen i'r Llywodraeth fynd i'r afael â nhw wrth drafod gyda'r UE.
Ymysg y 16 o faterion allweddol sy'n cael eu hamlygu yn y papur, mae'n annog Gweinidogion i fynd i'r afael â'r materion isod:
- Angen dybryd am gynllun integredig clir i fwyd yn y DU – nid oes gan Lywodraeth y DU bolisi ar fwyd ar hyn o bryd
- Eglurhad ar fwyd yn croesi ffiniau, yn enwedig o Weriniaeth Iwerddon i Ogledd Iwerddon
- Deddfwriaeth newydd i gymryd lle 4,000 darn o gyfraith yr UE sy'n ymwneud â bwyd
- Seilwaith gwyddonol a rheoleiddio, a fydd yn disodli o leiaf 30 o gyrff yr UE
- Hyfywedd ffermydd a'r cymorthdaliadau ar eu cyfer i ddisodli Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE (CAP)
- Polisïau pysgota sy'n gwneud mwy na dim ond gwrthod Confensiwn Llundain cyn yr UE ym 1964
- Llafur bwyd – mae 35 y cant o waith llafur gweithgynhyrchu bwyd yn dod o'r UE; mwy ym meysydd arlwyo a garddwriaeth
- Rhyw syniad o ble y bydd bwyd y DU yn dod – gan mai dim ond tua 54-61 y cant sy'n dod o'r DU ar hyn o bryd
- Tariffau – yn ôl diwydiant manwerthu, gall prisiau bwyd a fewnforir gynyddu 22 y cant ar ôl Brexit oherwydd tariffau
- Bydd prisiau, sy'n cynyddu ar hyn o bryd ac yn debygol o gynyddu'n fwy, yn dod yn fwy ansefydlog, a bydd hyn yn cael effaith negyddol ar ddefnyddwyr tlawd
- Gall safonau ansawdd drwy'r cadwyni cyflenwi, sy'n cael eu gosod gan yr UE ar hyn o bryd, ostwng, a gall hyn ddigwydd yn sydyn iawn.
Brexit Bwyd
Mae'r adroddiad yn defnyddio dros 200 o ffynonellau, gan gynnwys cyfweliadau â ffigurau blaenllaw yn y gadwyn fwyd, yn ogystal â dogfennau swyddogol a gwyddonol, ac ystadegau.
Mae'n rhybuddio bod pwysigrwydd "Brexit Bwyd" heb ei debyg o'r blaen, a'i fod yn digwydd mewn cyfnod lle mae system fwyd y DU yn fregus yn barod, gyda hunangynhaliaeth hefyd yn dirywio.
Mae'r Athro Millstone, yr Athro Lang a'r Athro Marsden yn dweud bod eu hadroddiad yn agoriad llygad i'r cyhoedd yn ogystal â Llywodraeth sydd â fawr ddim o brofiad o ymwneud â negodi ynghylch bwyd. Nid ydynt ychwaith wedi rhybuddio defnyddwyr o'r aflonyddwch sydd o'u blaen.
Mae'r adroddiad yn cynnig argymhellion manwl i'r 16 o faterion a archwiliwyd. Maen nhw'n galw ar y cyhoedd, y gymdeithas sifil ac academyddion i roi pwysau ar y Llywodraeth a Gweinidogion i:
- Gyhoeddi polisi sy'n ymrwymo i system fwyd effaith isel sy'n canolbwyntio ar iechyd
- Creu fframwaith statudol newydd i fwyd yn y DU, sef "Bwyd Un Genedl" yr awduron
- Ymrwymo i Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, a chytundeb hinsawdd Paris yn y fframwaith newydd ar gyfer bwyd
- Sefydlu Comisiwn Cenedlaethol newydd ar Fwyd ac Amaethyddiaeth i oruchwylio ac adolygu, ac i fod yn ffynhonnell y gall cyhoedd Prydain ymddiried ynddi.
Dywedodd yr Athro Marsden: "Mae system fwyd y DU eisoes yn wynebu heriau digyffelyb o safbwynt yr amgylchedd a swyddi – rydym yn gweld perygl gwirioneddol bod ansicrwydd Brexit yn tarfu ar y rhain eisoes.
Dywedodd yr Athro Millstone: "Ers refferendwm Brexit, mae anrhefn lwyr wedi bod ym maes polisi bwyd ac amaethyddiaeth y DU. Yn ogystal â'r ffaith nad yw'r gweinidogion wedi llunio strategaeth na gwneud penderfyniadau eto, nid ydynt hyd yn oed wedi deall y materion y mae angen gwneud penderfyniadau brys yn eu cylch. Oni fydd pethau'n newid yn gyflym, yn unol â'n hargymhellion, nid polisi'r DU yn unig fydd yn anrhefn lwyr, ond bydd y system fwyd ei hun yn mynd yn draed moch.
Dywedodd yr Athro Lang: "O leiaf roedd gan y DU gynlluniau i'w defnyddio mewn argyfwng wrth fynd i'r Ail Ryfel Byd. Nid oes neb wedi rhybuddio'r cyhoedd y gallai Brexit Bwyd darfu ar ffynonellau, prisiau ac ansawdd yn sylweddol. Mae tystiolaeth gadarn am niweidiau posibl sy'n amrywio o iechyd gwael sy'n gysylltiedig â diet, i straen ecosystemau.
"Er bod y gyfran fwyaf o ddeddfau a rheoliadau'r UE yn ymwneud â bwyd, hyd yn hyn, dim ond crybwyll Deddf Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yn y fras y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud yn Araith y Frenhines.
"Mae defnyddwyr Prydain yn gwario £201 biliwn y flwyddyn ar fwyd, gyda'r gadwyn fwyd gyfan yn cyfrannu £110 biliwn o werth ychwanegol gros (GVA). O hyn, mae amaethyddiaeth yn gyfrifol am lai na £9 biliwn o'r gwerth ychwanegol gros, a physgodfeydd yn £0.7 biliwn o werth ychwanegol gros.
"Prin iawn o fanylion am amaethyddiaeth a physgodfeydd sydd wedi'u rhoi gan y Llywodraeth, ac nid ydym wedi clywed un smic ganddynt am weddill y gadwyn fwyd lle gwneir y rhan fwyaf o ddewisiadau o ran cyflogaeth, ychwanegu gwerth a defnyddwyr. O ystyried y bydd Brexit yn dod i ben ymhen 20 mis, mae hyn yn fethiant polisi difrifol ar raddfa nas gwelwyd erioed o'r blaen. Byddai unrhyw un yn meddwl eu bod eisiau disgyn i ddyfnderoedd Sefydliad Masnach y Byd.
Dywedodd yr Athro Millstone: “Ers refferendwm Brexit, mae anrhefn lwyr wedi bod ym maes polisi bwyd ac amaethyddiaeth y DU. Yn ogystal â'r ffaith nad yw'r gweinidogion wedi llunio strategaeth na gwneud penderfyniadau eto, nid ydynt hyd yn oed wedi deall y materion y mae angen gwneud penderfyniadau brys yn eu cylch...”