Dau enyn newydd yn gysylltiedig â risg clefyd Alzheimer
17 Gorffennaf 2017
Mae tîm o ymchwilwyr o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd wedi nodi dau ennyn sy’n dylanwadu ar risg person o ddatblygu clefyd Alzheimer.
Mae’r canfyddiad newydd, sy'n adeiladu ar waith blaenorol y tîm o nodi 24 genyn rhagdueddiad, yn eu galluogi i ddeall y mecanweithiau sydd wrth wraidd y clefyd yn well ac mae’n cynnig rhagor o obaith wrth ddatblygu triniaethau newydd.
Yn ôl Dr Rebecca Simms o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Yn ogystal â nodi dau ennyn sy'n effeithio ar y risg o ddatblygu clefyd Alzheimer, mae ein gwaith ymchwil newydd yn datgelu nifer o enynnau a phroteinau eraill sy'n ffurfio rhwydwaith sy’n debygol o fod yn bwysig yn ei ddatblygiad…”
Ddarnau jig-so
Ychwanegodd Dr Rosa Sancho, Pennaeth Ymchwil gydag Ymchwil Clefyd Alzheimer y DU: “Mae canfod genynnau newydd fel dod o hyd i ddarnau jig-so y gall biolegwyr ddechrau eu rhoi at ei gilydd i greu darlun cyflawn o glefyd.
“Mae Ymchwil Clefyd Alzheimer y DU yn falch o gefnogi gwyddonwyr sydd ar flaen y gad yn y maes hwn wrth iddynt barhau i wneud darganfyddiadau gwerthfawr sy'n ein helpu i ddeall y clefyd...”
Nodwyd y ddau ennyn newydd, nad oedd wedi’u hystyried o’r blaen yn ymgeiswyr ar gyfer risg clefyd Alzheimer, yn ystod astudiaeth a oedd yn cymharu DNA degau o filoedd o unigolion â chlefyd Alzheimer â rhai o’r un oed nad ydyn nhw’n dioddef o'r clefyd.
Ar hyn o bryd, mae tua 850,000 o bobl yn y DU â chlefyd Alzheimer. Wrth i’r clefyd fynd rhagddo, mae proteinau’n crynhoi yn yr ymennydd i ffurfio strwythurau o'r enw placiau a chlymau. Mae’r cysylltiadau rhwng celloedd nerfau’n cael eu colli, ac yn y pen draw mae’r celloedd nerfau’n marw ac mae cyfaint meinwe’r ymennydd yn lleihau. Hefyd, mae’r rhai sydd â chlefyd Alzheimer yn brin o rai cemegau pwysig yn eu hymennydd. Mae’r negeswyr cemegol hyn yn helpu i drosglwyddo signalau o amgylch yr ymennydd. Pan fo prinder ohonynt, nid yw’r signalau a drosglwyddir mor effeithiol.
Driniaethau effeithiol newydd
Meddai Dr Doug Brown, Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu yn y Gymdeithas Alzheimer: “Mae gan fwy na 60% o bobl â dementia glefyd Alzheimer, ond er gwaethaf y ffaith ei fod mor gyffredin, nid ydym yn deall achosion cymhleth y clefyd yn llawn o hyd.
“Mae darganfod dau ennyn newydd sy'n achosi risg o gael clefyd Alzheimer yn ddatblygiad cyffrous a allai helpu i ehangu ein dealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd mewn ymennydd pobl sydd â'r clefyd. Mae'r genynnau hyn yn atgyfnerthu rôl allweddol celloedd arbennig yn yr ymennydd – o'r enw microglia – sy'n gyfrifol am lanhau malurion fel celloedd sydd wedi eu niweidio a phroteinau. Mae darganfyddiadau fel hyn yn ein helpu i ddeall yr hyn sy'n gymhleth am glefyd Alzheimer, ac yn dangos lle ddylai ymchwilwyr ganolbwyntio wrth iddynt chwilio am driniaethau effeithiol newydd.
“Fel cyllidwyr yr ymchwil hon, rydym wrth ein bodd i weld y cynnydd hwn...”
Mae Prifysgol Caerdydd yn datblygu ei gwaith ymchwil blaenllaw ym maes dementia wedi iddi gael ei dewis yn un o chwe chanolfan Sefydliad Ymchwil Dementia y DU. Menter genedlaethol gwerth £250m yw hon sy’n ceisio mynd i’r afael â’r clefyd. Gyda’r posibilrwydd o gael rhagor o arian ymchwil dros y pum mlynedd nesaf, y ganolfan newydd ym Mhrifysgol Caerdydd fydd y buddsoddiad mwyaf erioed mewn astudiaethau gwyddonol ym maes dementia yng Nghymru.
Ariannwyd ymwneud Prifysgol Caerdydd â’r ymchwil newydd gan Gymdeithas Alzheimer, MRC, Llywodraeth Cymru ac Ymchwil Clefyd Alzheimer y DU.
Cyhoeddwyd yr ymchwil ‘Rare coding variants in PLCG2, ABI3 and TREM2 implicate microglial-mediated innate immunity in Alzheimer’s disease’ yn Nature Genetics.
Mae astudiaethau arsylwi fel hyn yn ddefnyddiol inni ddeall rhagor am y berthynas rhwng genynnau a chlefyd Alzheimer, fodd bynnag, nid ydynt yn profi a yw hon yn berthynas achosol.