Rownd derfynol gwobr Arweinyddiaeth
17 Gorffennaf 2017
Mae Cyfarwyddwr Ymgysylltu ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n arwain prosiect yn gweithio mewn partneriaeth gyda chymuned Grangetown wedi'i gosod ar restr fer ar gyfer gwobr arweinyddiaeth bwysig.
Mae Dr Mhairi McVicar ar restr fer categori Arweinyddiaeth yn y Sector Cyhoeddus yng Ngwobrau Arwain Cymru eleni.
Fe'i henwebwyd am ei rôl arweiniol fel arweinydd prosiect Porth Caerdydd a Chyfarwyddwr Ymgysylltu yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.
Ymrwymiad ac angerdd
Dywedodd Dr McVicar: “Mae cael fy enwebu a'm gosod ar restr fer y wobr nodedig hon yn gwneud i mi deimlo'n wylaidd, ac mae'n adlewyrchiad o ymrwymiad ac angerdd grŵp mawr o bartneriaid cymunedol yn Grangetown a staff Prifysgol Caerdydd, ac nid lleiaf y timau Porth Cymunedol ac Ymgysylltu, sydd wedi sicrhau llwyddiant partneriaethau’r Porth Cymunedol.”
Gwobrau Arwain Cymru 2017 yw'r unig wobrau yng Nghymru ar gyfer arweinyddiaeth a chânt eu cynnal ar y cyd â'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheoli.
Ymhlith y cyn-fyfyrwyr buddugol mae Laura Tenison MBE, Jo Jo Maman Bébé, Mario Kreft MBE, Prif Weithredwr Cartrefi Gofal Pendine Park, Kelly Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Vi-Ability, a Dr Sabine Maguire o Sparkle, Sefydliad Plant De Gwent.
Dywedodd Barbara Chidgey, Cadeirydd Gwobrau Arwain Cymru: “Mae'r rhestr fer yn adlewyrchu safon uchel iawn ac amrywiaeth eang o arweinwyr ym mhob sector ar draws Cymru.”
Caiff y buddugwyr eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo amser cinio yng Ngwesty'r Hilton Caerdydd ddydd Iau 21 Medi.
Mae prosiect y Porth Cymunedol, sy'n rhan o raglen Trawsnewid Cymunedau’r Brifysgol, yn gweithio gyda phreswylwyr yr ardal i wneud Grangetown yn lle gwell fyth i fyw ynddo.