Seminar yn cefnogi bwydo ar y fron ledled Cymru
11 Tachwedd 2014
Bydd seminar sy'n edrych ar wahanol ffyrdd o gefnogi bwydo ar y fron ledled Cymru yn helpu i lunio polisïau'r dyfodol yng Nghymru.
Mae ymchwil yn dangos bod cyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru yn isel o gymharu â safonau rhyngwladol, a bod mamau sy'n byw mewn ardaloedd llai cefnog yng Nghymru yn llawer llai tebygol i gredu bod bwydo ar y fron yn opsiwn realistig iddynt.
Cyfarfu dros gant o lunwyr polisïau, mamau, cynorthwywyr cyfoedion, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd i drafod syniadau newydd mewn perthynas ag ymyriadau cymorth cymheiriaid yn seminar diweddaraf 'Her Iechyd Cymru, a drefnwyd gan DECIPHer ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae ymyriadau cymorth bwydo ar y fron – lle hyfforddir mamau lleol i helpu mamau eraill i fwydo ar y fron – wedi gwella cyfraddau bwydo ar y fron mewn gwledydd eraill. Er hynny, dywedodd trefnwyr y seminar fod diffiniadau o gymorth effeithiol, a sut i fesur eu heffaith, yn aneglur.
Dywedodd Heather Trickey, trefnydd y seminar: "Mae penderfyniadau yn ymwneud â bwydo babanod yn cynnwys y teulu ehangach ac yn cael eu dylanwadu gan gredoau ac agweddau rhwydweithiau cymdeithasol ehangach y fam. Mae mamau'n dibynnu ar bobl eraill i gael anogaeth a chefnogaeth. Ni all y Gwasanaeth Iechyd weithio ar ei ben ei hun ac anwybyddu'r dylanwadau hyn. Er hynny, ni ddylid ystyried y cymorth rydym yn sôn amdano fel ateb 'addas i bawb' i'r heriau mae mamau yn eu hwynebu. Mae angen i ni wybod pa fath o gymorth byddai mamau yn ei groesawu. Yn ogystal, rhaid i ni dderbyn y bydd angen amrywio'r ymyriadau mewn cymunedau gwahanol, a rhaid deall pa fesurau polisi ac arfer eraill sy'n rhaid eu cael mewn lle er mwyn sicrhau bod y cymorth yn effeithiol o ran gwella profiadau bwydo ar y fron."
Bydd y dystiolaeth a gesglir yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru o ran cyfeiriad y polisi. Trafododd y cynrychiolwyr ganfyddiadau ymchwil newydd, rhannwyd polisïau, arferion a phrofiadau personol, a chymerwyd rhan mewn trafodaethau a recordiwyd yn archwilio sut y byddai'r cymorth dan sylw'n gweithio, beth sy'n atal y cymorth hwn rhag gweithio, ble fyddai'n debygol o weithio orau a faint o famau y bydd yn bosibl eu cefnogi.
Mae mwy o wybodaeth am waith DECIPHer ym maes bwydo ar y fron ar gael oddi wrth Heather Trickey, DECIPHer: TrickeyHJ@cardiff.ac.uk; +44 (0)29 20 879609.