Datrysiad recriwtio rhithwir ar gyfer hyfforddeion meddygol a deintyddol ‘Cenhedlaeth Y’
18 Tachwedd 2014
Mae prosiect arloesol o Brifysgol Caerdydd ar waith i gynyddu amlygrwydd Cymru fel cyrchfan deniadol ar gyfer meddygon a deintyddion dan hyfforddiant.
Mae'r Ffair Yrfaoedd Rithwir yn llwyfan gyrfaoedd meddygol ar-lein sy'n cynnwys Rhaglenni Sylfaen, Arbenigol, Meddygon Teulu a Deintyddol, yn ogystal â gwybodaeth ynghylch datblygu gyrfa. Caiff y cynllun ei lansio gan Ddeoniaeth Cymru, sef corff sy'n gyfrifol am hyfforddiant meddygol ôl-raddedig yng Nghymru.
Mae Myfyrwyr Meddygaeth a Hyfforddeion Sylfaen ac Arbenigol yn gallu pori drwy gydol y flwyddyn ac archwilio'r Ddinas Rithwir, casglu Canllaw i Ymwelwyr o'r cyntedd a defnyddio dangosfwrdd a ddyluniwyd yn arbennig ar gyfer gweithgarwch gyrfaol ac archebion gwe-sgyrsiau, a drefnir gan sefydliadau megis Cymdeithas Feddygol Prydain, Academi Wales a'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Mae'r safle'n cynnwys deunydd i'w lawrlwytho, dolenni allanol a fideos byr, ac mae'n rhoi canllawiau ynghylch adeiladu gyrfa yng Nghymru a dolenni i sefydliadau partnerol gan gynnwys Byrddau Iechyd ac ysgolion meddygaeth. Mae'r safle ar fin cofrestru ei ganfed cyfranogwr.
"Cafodd y math hwn o ddatrysiad rhithwir ei brofi gan sefydliadau recriwtio mewn sectorau eraill, ond rydym yn arloesi gyda'r fformiwla ar gyfer y sector meddygol a deintyddol, " esboniodd arweinydd y prosiect, Mrs Sally Blake, sy'n Rheolwr Datblygu Gyrfa gyda Deoniaeth Cymru.
"Rydym yn anelu at y meddygon hynny yng Nghenhedlaeth Y sy'n cael eu gwybodaeth o Twitter, YouTube, Instagram a llawer o sianeli cyfryngau cymdeithasol eraill. Cryfder yr adnodd hwn yw ei hyblygrwydd – mae'n hawdd i ymwelwyr gael mynediad unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, o unrhyw fath o ddyfais. Mae gwesteiwyr gwe-sgyrsiau hefyd yn gallu cynnig eu harbenigedd am awr ddiffiniedig neu ddwy, unwaith eto o unrhyw fan, ar unrhyw adeg.
"Mae'n anodd cymryd lle sgwrs wyneb i wyneb yn llwyr, ond nid yw pob digwyddiad gyrfaoedd yn gyfleus i feddygon a deintyddion prysur eu mynychu, felly gall y Ffair Rithwir gynorthwyo gyda phontio'r bwlch gwybodaeth."
Mae Ffair Yrfaoedd Rithwir Deoniaeth Cymru'n adeiladu ar fformat digwyddiadau gyrfaoedd sefydledig a bydd Deoniaeth Cymru'n parhau i fod yn bresennol mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau sydd wedi'u hanelu at gynorthwyo myfyrwyr a hyfforddeion i archwilio eu dewisiadau o ran gyrfaoedd a hyfforddiant. Mae nifer o sefydliadau meddygol a deintyddol eraill yn gwylio'r arbrawf gyda bwriad i fabwysiadu dull tebyg.
Dilynwch Ffair Yrfaoedd Deoniaeth Cymru @walesmedcareers,#wmedfair neu gallwch gofrestru ynwww.walesdeanery.prospects.ac.uk/fair.