Cyllid Myfyrwyr
14 Gorffennaf 2017
Ar 11 Gorffennaf 2017, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod pecyn cymorth newydd ar gael ar gyfer myfyrwyr israddedig amser llawn, myfyrwyr israddedig rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig o Gymru, o ddechrau blwyddyn academaidd 2018/19.
Yn seiliedig ar argymhellion Adolygiad Diamond, bydd y system newydd yn cyflwyno cefnogaeth gynhaliaeth i fyfyrwyr ar gyfer costau beunyddiol yn hytrach nag ad-daliadau wedi graddio, a bydd y newidiadau ar waith ar gyfer myfyrwyr sy’n dechrau blwyddyn gyntaf eu cwrs ym mlwyddyn academaidd 2018/19.
Disgwylir newidiadau pellach i fyfyrwyr ôl-raddedig ar gyfer mis Medi 2019.
Fel y dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, bydd y newidiadau yn amodol ar gyflwyno rheoliadau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr o Gwestiynau Cyffredin a ffeithlun ynghylch y newidiadau i’r gefnogaeth a roddir i fyfyrwyr.