Dyfodol gwleidyddol Cymru
14 Gorffennaf 2017
Bydd dyfodol gwleidyddol Cymru dan y chwyddwydr mewn dadl dan arweiniad Prifysgol Caerdydd yr wythnos nesaf.
Bydd Syniadau am Gymru, a drefnir gan Dr Huw Williams o Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth y Brifysgol, a Dr Dan Evans o Sefydliad Data a Dulliau Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), yn dod ag academyddion, gwleidyddion a newyddiadurwyr at ei gilydd i ystyried ffyrdd o gynyddu ymgysylltiad ac ymwybyddiaeth wleidyddol, a sut i wneud gwleidyddiaeth yn fwy cynhwysol.
Bydd siaradwyr y ddadl yn cynnwys Dr Williams, darlithydd Coleg Cymraeg yn yr Ysgol, a Dr Evans – sydd hefyd yn rhan o Desolation Radio – ASau Vikki Howells a Jeremy Miles, a Chadeirydd Youth Cymru, Helen Mary Jones.
Sy'n tyfu rhwng y bobl a'r elît
Ymhlith y testunau fydd yn cael eu trafod mae addysg wleidyddol mewn ysgolion a'r posibilrwydd o gyflwyno pleidleisio gorfodol er mwyn cynyddu ymgysylltiad gwleidyddol.
Dywedodd Dr Huw Williams, a drefnodd y digwyddiad: "Mae'r hinsawdd wleidyddol yr ydym yn byw ynddi wedi arwain at gynnydd mewn gwleidyddiaeth boblyddol, sydd wedi'i nodweddu gan y syniad bod yna fwlch sy'n tyfu rhwng y bobl a'r elît, ynghyd â disgwrs gwleidyddol mwy eithafol a llai goddefgar. Mae Cymru, wrth gwrs, wedi cael rhai o'r symptomau hyn hefyd; mae cydnabyddiaeth gyffredinol yma bod yn rhaid i ni fynd i'r afael â gwendidau yn ein diwylliant gwleidyddol."
Cynhelir y ddadl am 6.10pm ddydd Mawrth 18 Gorffennaf yn y Senedd, Bae Caerdydd. Digwyddiad rhad ac am ddim yw hwn, ond mae'n rhaid cofrestru ymlaen llaw yma.
Noddir y drafodaeth gan brosiect Caerdydd yn Siarad Prifysgol Caerdydd, menter sy'n dod ag ymchwilwyr y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol ynghyd i ystyried a rhoi eu barn ynghylch mater sy’n berthnasol i’r gymdeithas gyfoes.