Digwyddiad yn y Senedd i godi ymwybyddiaeth am friwiau gorwedd
20 Tachwedd 2014
Mae Diwrnod Atal Briwiau Gorwedd yn ddigwyddiad byd-eang sydd â'r nod o gynyddu gwybodaeth y cyhoedd am friwiau gorwedd a'i symptomau.
Yn sgil cynnal digwyddiad swyddogol heddiw, cynhaliwyd digwyddiad unigryw gan Rwydwaith Clwyf Cymru Prifysgol Caerdydd ddoe yn y Senedd ym Mae Caerdydd. Roedd y digwyddiad wedi cael ei anelu at Brif Weithredwyr y GIG a dylanwadwyr gofal iechyd allweddol. Roedd dros 60 o bobl yn bresennol yn y bore ac roedd yn llwyddiant mawr.
Rhoddodd John Griffiths, AC, gefnogaeth i'r digwyddiad a bydd yn siarad heddiw. Bydd Michael Clark, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Clwyf Cymru yn siarad hefyd, i amlygu sut gall briwiau gorwedd effeithio ar gleifion, y costau cysylltiedig, ynghyd â beth y gellir ei wneud i'w hatal. Bydd yr athletwr o Gymru, Christian Malcolm, yn bresennol heddiw hefyd, i ddangos ei gefnogaeth.
Mae briwiau gorwedd – a elwir hefyd yn friwiau gwely – yn gwanhau ac yn boenus, gan effeithio ar dros 400,000 o bobl bob blwyddyn - oddeutu poblogaeth Caerdydd. Fe wnaeth yr actor diweddar, Christopher Reeve, a oedd yn enwog am ei rôl fel Superman, farw yn 2004 yn sgil cymhlethdodau oedd yn gysylltiedig â briwiau gorwedd,.
Mae ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn dangos, yn 2010, y bu dros 27,000 o bobl farw yn sgil briwiau gorwedd neu glwyfau heintiedig - ond nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod sut i ganfod arwyddion cynnar briwiau gorwedd.
"Rwy'n siŵr bod gan y rhan fwyaf o bobl aelod o'r teulu sydd wedi dioddef briwiau gorwedd", meddai'r Athro Keith Harding, sef Pennaeth Uned Ymchwil Gwella Clwyfau Prifysgol Caerdydd.
"Yn aml, gellir osgoi'r clwyfau hyn, ac mae ymgyrch Atal Briwiau Gorwedd yn gweithio gyda gwasanaethau iechyd ledled Ewrop i atal pobl rhag dioddef yn ddiangen.
"Mae Canolfan Arloesi ym maes Gwella Clwyfau yng Nghymru wedi ymroi'n gryf i gefnogi nodau'r diwrnod Atal Briwiau Gorwedd , ac mae'n edrych ymlaen at weld gostyngiadau yn yr achosion o friwiau gorwedd ymhlith cleifion yng Nghymru dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf", meddai. Mae atal briwiau gorwedd y gellir eu hosgoi yn nod allweddol i glinigwyr a sefydliadau sy'n cyflwyno gofal cleifion. Amcangyfrifir bod trin briwiau gorwedd yn costio £2.3 - £4.9 biliwn y flwyddyn. Gallai'r ffigur hwn dalu am rhwng 288 a 613 o nyrsys trwy gydol eu gyrfaoedd.