Mae gwaith y Brifysgol i achub bywydau yn Namibia yn cael cefnogaeth sefydliad iechyd byd-eang, sy’n gwella hyfforddiant ar gyfer gweithwyr iechyd mewn gwledydd tlotach.
20 Tachwedd 2014
Dim ond dau anesthetydd rhan-amser sy'n gymwys yn feddygol sydd gan Namibia, sy'n wlad â phoblogaeth o fwy na dwy filiwn o bobl.
Mae Prosiect Phoenix y Brifysgol, sef un o'r pump o brosiectau ymgysylltu blaenllaw, yn gweithio gyda Phrifysgol Namibia a gwasanaeth iechyd Namibia i ddarparu arbenigedd i helpu i hyfforddi mwy o anesthetyddion.
Mae'r Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg Drofannol, sy'n cynorthwyo mwy na 200 o bartneriaethau iechyd ledled y byd, wedi cynnig cymorth ariannol i Brosiect Phoenix.
Bydd yn rhoi grant i helpu i alluogi uwch anesthetyddion ymgynghorol o'r DU i addysgu'r tri chwrs anesthesia dwys mewn tri lleoliad yn Namibia y flwyddyn nesaf.
Dywedodd yr Athro Judith Hall, o'r Ysgol Feddygaeth, sy'n arwain Prosiect Phoenix: "Yn Namibia, ar gyfer dwy filiwn o bobl, mae ganddyn nhw 19 swyddog meddygol ar gyfer y wlad gyfan – yr anesthetyddion heb eu hyfforddi – ac mae ganddyn nhw ddau anesthetydd rhan-amser.
"Mae pobl yn teithio pellteroedd mawr i gael gofal iechyd ac maen nhw'n marw ar y ffordd.
"Yng Nghaerdydd, mae gennym ni 160 anesthetydd ar gyfer poblogaeth o oddeutu 300,000. Mae'n hollol frawychus ac yn rhoi pethau mewn persbectif.
"Mae'r grant hwn mor arwyddocaol a bydd yn ein helpu ni i achub bywydau yn Namibia."
Bydd y tri chwrs hyfforddi dwys yn cael eu cynnal mewn tri lleoliad yn Namibia: yn y brifddinas, Windhoek, ac yn Rundu ac Oshakati.
Bydd Prosiect Phoenix wedyn yn mynd â'r hyfforddiant gam ymhellach trwy helpu i sefydlu cymhwyster ôl-raddedig cyntaf Namibia mewn anesthesia, ar y cyd â Phrifysgol Namibia.
"Y diben yw i Namibia gynhyrchu ei myfyrwyr meddygol ei hun, ac mae ein presenoldeb yn cyd-daro â'r angen enbyd am addysg ôl-raddedig," meddai'r Athro Hall.
"Nid oes modd cael llawfeddygaeth obstetreg a gynecoleg heb anestheteg.
"Mae angen eu meddygon cartref eu hunain ar bob gwlad, oherwydd os byddwch yn eu hyfforddi nhw yn Namibia, yna byddan nhw'n aros yn Namibia – nid meddygon yn unig, ond nyrsys a fferyllwyr hefyd.
"Mae'n hynod bwysig ein bod ni'n gwneud hyn gyda nhw."
Dyfarnwyd y grant gwerth £9,000 gan yr Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg Drofannol, sy'n gweithio mewn partneriaeth i wella addysg a hyfforddiant gweithwyr iechyd mewn gwledydd incwm isel a chanolig.
Dywedodd Jane Cockerell, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth: "Mae prinder gweithwyr iechyd sydd wedi'u hyfforddi'n briodol mewn gwledydd incwm isel a chanolig, yn parhau i danseilio ymdrechion i wella gwasanaethau iechyd ar gyfer y bobl dlotaf a mwyaf difreintiedig yn y byd
"Trwy weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr dramor, bydd y cydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia yn gwella gwybodaeth a sgiliau ym maes anesthesia mewn gwlad sydd â bron dim adnoddau dynol yn y maes hanfodol hwn.
"Bydd y gweithwyr iechyd proffesiynol o Gaerdydd, sy'n rhoi eu hamser, eu hegni a'u harbenigedd yn wirfoddol, yn ymateb i'r angen a amlygwyd gan bartner sy'n wlad ddatblygol, a bydd yn helpu i feithrin gallu tymor hir ysbytai a chanolfannau iechyd yn Namibia i wella gofal iechyd ar gyfer y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu."
Mae Prosiect Phoenix yn gweithio yn Namibia ar y cyd â rhaglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru.
Mae gwaith Phoenix yn cynnwys popeth o hyfforddi staff meddygol a hybu cyfathrebiadau iechyd, i gryfhau ieithoedd lleol a chynyddu sgiliau mathemateg ymhlith myfyrwyr.
Mae'r prosiect wedi ennill cefnogaeth Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Namibia, yr Anrhydeddus Petrina Haingura, a wnaeth gefnogi'r cais am grant.