Academydd o Gaerdydd yn ennill cais am olygyddiaeth cylchgrawn ffeministaidd
13 Gorffennaf 2017
Mae academydd o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi cael ei henwi yn olygydd cartref newydd cyfnodolyn unigryw sy'n ymchwilio i wleidyddiaeth ryngwladol gan ddefnyddio damcaniaethau ffeministaidd a rhywedd.
O fis Ionawr 2018, bydd cartref y cyfnodolyn International Feminist Journal of Politics yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a bydd yn cael ei arwain gan dîm golygyddol yn cynnwys yr Athro Marysia Zalewski, yr Athro Brooke Ackerly (Prifysgol Vanderbilt, UDA) Yr Athro Eilisabeth Jay Friedman (Prifysgol San Francisco, UDA) a Meenakshi Gopinath (Menywod ym maes Rheoli Gwrthdaro Diogelwch a Heddwch, India).
Mae’r Athro Zalewski yn un o grŵp blaenllaw o ysgolheigion gwleidyddiaeth ryngwladol ffeministaidd a sefydlodd y cyfnodolyn yn ystod y 1990au. Ers hynny, mae’r cyfnodolyn wedi dod â rhai o ffigurau mwyaf dylanwadol y maes ynghyd i adeiladu cymuned fyd-eang o awduron a darllenwyr. Fforwm rhyngwladol yw’r cyfnodolyn sy'n anelu at feithrin trafodaeth ar draws cysylltiadau rhyngwladol, gwleidyddiaeth, astudiaethau rhywedd, damcaniaeth queer ac astudiaethau menywod.
Mae’r Athro Zalewski mewn safle da i olygu'r cylchgrawn gan fod ei diddordebau ymchwil yn ymwneud â damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol beirniadol, damcaniaeth ffeministaidd, damcaniaeth queer a damcaniaeth wleidyddol ac mae wedi bod yn aelod o’i fwrdd golygyddol ers tro byd.
Wrth i amser fynd rhagddo mae’r cyfnodolyn wedi addasu i ymateb i newidiadau technolegol a chymdeithasol ac mae ar gael ar-lein ac ar ffurf copi caled. Bellach caiff ei gefnogi gan dimau golygyddol cyswllt a chynorthwyol eang mewn amrywiaeth o leoliadau ym mhedwar ban y byd.
Wrth sôn am ei phenodiad, meddai’r Athro Waterman: "Mae sicrhau golygyddiaeth cyfnodolyn International Feminist Journal of Politics yn bluen yn het Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ac yn cadarnhau ein statws fel cyrchfan i astudio cysylltiadau rhyngwladol cyfoes. Mae gwaith a phersbectif damcaniaethau ffeminist, rhywedd a queer yn arwyddocaol iawn ac mae’r cyfnodolyn hwn yn eu rhoi ar flaen y gad o ran trafodaethau ar wleidyddiaeth (fyd-eang a lleol), cysylltiadau rhywedd a rhywioldeb."
"Ar ôl imi ddechrau golygu’r cyfnodolyn gyda fy nghydweithwyr rhyngwladol gwych, byddaf yn llawn cyffro wrth fod yn rhan o'r gwaith o gynllunio seithfed gynhadledd y cyfnodolyn a gynhelir ym mis Ebrill ym Mhrifysgol San Francisco. Ei theitl fydd Ffeministiaeth + Gwybodaeth + Gwleidyddiaeth a bydd yn dod ag ysgolheigion, myfyrwyr ac ymarferwyr at ei gilydd er mwyn ymchwilio’n rhyngddisgyblaethol ac yn fyd-eang i wybodaeth ffeministaidd am wleidyddiaeth a gwleidyddiaeth gwybodaeth ffeministaidd."