Y Bardd Dŵr ar Gymru yn dilyn Rhyfel Cartref Lloegr
12 Gorffennaf 2017
Mae prosiect ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd yn ceisio taflu goleuni ar fardd ac awdur teithio hanesyddol unigryw a deithiodd o amgylch Cymru yn ystod haf 1652.
Roedd John Taylor (1578-1653), a oedd yn galw ei hun yn ‘the Water Poet’, neu’r Bardd Dŵr, yn ffigwr lliwgar a oedd yn gweithio fel cychwr ar y Tafwys am y rhan fwyaf o'i fywyd. Fe deithiodd y bardd, y pamffledwr a’r newyddiadurwr enwog ac arloesol y siwrne 600 milltir tuag at ddiwedd ei fywyd lliwgar.
Yn daith hanesyddol
Gan gofnodi darlun Modern Cynnar o’r dywysogaeth, dechreuodd y cychwr ar ei daith hanesyddol yn Llundain cyn teithio drwy ganolbarth Lloegr i Ogledd Cymru. Gyda’i geffyl Dun, teithiodd o'r gogledd i'r de, gan aros mewn nifer o dai Brenhingar, a mwynhau swper gyda chlerc y dref yng Nghaerdydd.
Dros dair canrif mae beirniaid llenyddol a haneswyr wedi pori drwy waith ysgrifennu Taylor i geisio gwybodaeth gyd-destunol, ond erbyn hyn nid oes llawer yn gwybod am y seren modern cynnar.
Mae’r Cydymaith Ymchwil Dr Johann Gregory, sydd hefyd yn addysgu drama Shakesperaidd yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, wedi dyfeisio prosiect peilot digidol-yn-cwrdd-â-modern-cynnar i adlewyrchu'r daith hynod mewn amser real, gan ein tywys yn ôl i adeg y Rhyngdeyrnasiad, y cyfnod lle’r oedd Cromwell a’r seneddwyr mewn grym ar ôl dienyddiad Charles I.
O ddyddiadur teithio Taylor a map Google
Bydd y daith yn cael ei hail-fyw drwy’r cyfryngau cymdeithasol, gan ddechrau ar 13 Gorffennaf – pan gychwynnodd Taylor o Lundain hyd at ddechrau mis Medi, pan ddychwelodd adref. Bydd fersiwn newydd ar-lein, wedi’i sillafu’n fodern, o ddyddiadur teithio Taylor a map Google o’r llwybr yn dod â’r daith ryfeddol yn fyw ar gyfer yr oes ddigidol sydd ohoni.
Yn fwyaf enwog yn ei ddydd am rwyfo i lawr afon Tafwys mewn cwch papur mewn gorchest gyhoeddusrwydd gynnar, daeth y cychwr yn enwog yn ei oes, ac yn adnabyddus am ei hanesion mympwyol o’i deithiau. Roedd yn cael ei ystyried i fod yn broto-newyddiadurwr a gohebydd rhyfel cynnar, ac roedd yn un o'r awduron cyntaf i gyhoeddi drwy danysgrifiad. Yn fab i lawfeddyg o Gloucester, fe wasanaethodd yn y Llynges Elisabethaidd yn Cadiz ac yntau’n ddim ond 16 oed, fe gyhoeddodd farddoniaeth ac ysgrifau dros bum degawd a daeth yn bamffledwr gwleidyddol Brenhingar ac yn ‘Beefeater’ i Charles I cyn gorffen ei ddyddiau fel landlord y Poet’s Head yn Llundain. Gellir ystyried ei orchestion cyhoeddusrwydd a’i deithiau fel rhan o ddiddordeb modern cynnar ehangach mewn chwedlau rhyfedd, newyddion o bell, a chyflwr y wlad.
“Roedd Cymru a Lloegr ar groesffordd hanesyddol ym 1652. Roedd cyfrif llygad-dyst Taylor, wedi’i ysgrifennu’n rhannol mewn penillion, yn adrodd ar rai o'r ffyrdd yr oedd y blynyddoedd o gythrwfl yn dilyn y Rhyfel Cartref wedi effeithio ar Gymru, yn ogystal â dangos ei frwdfrydedd am sgwrsio â phobl newydd a theithio, hyd yn oed ac yntau’n 74 oed gyda choes glec" esbonia Dr Gregory.
Fel rhan o'r prosiect, bydd grŵp o blant ysgol yn Aberystwyth yn ymateb i gyfrif Taylor o’i lwybr drwy eu tref. Mae disgyblion Ysgol Penglais wedi cynhyrchu mapiau darluniadol o’i lwybr, gan gyfrannu at y broses o ddelweddu ei daith ar gyfer y prosiect.
Gan adeiladu ar ymchwil cynharach yn defnyddio Gwaith John Taylor (1630) sy’n byw yng Nghasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd, mae’r prosiect peilot yn diweddu gyda thaith yr ymchwilydd ei hun i Brifysgol Caergrawnt ym mis Medi i gyflwyno taith John Taylor o amgylch Cymru a myfyrio ar yr arbrawf.
I gael y newyddion diweddaraf am y daith amser-real a negeseuon blog, dilynwch yr ymchwilydd Dr Johann Gregory ar Twitter. I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, ewch i’r wefan John Taylor newydd.