Sgan manylaf erioed o strwythur yr ymennydd dynol
11 Gorffennaf 2017
Mae ffilm newydd anhygoel yn dangos yr ymennydd dynol mewn manylder digymar o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Siemens Healthineers.
Cafodd ymennydd Gohebydd Meddygol y BBC, Fergus Walsh, ei sganio yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) drwy ddefnyddio sganiwr MRI mwyaf pwerus Ewrop – Skyra Magnetom Connectom 3T.
Rendro sinematig
Defnyddiodd Siemens Healthineers ddata’r sgan i gynhyrchu delweddau anhygoel o ymennydd Fergus. Fe wnaethant hyn drwy addasu techneg ‘rendro sinematig’ a ddefnyddir yn y diwydiant ffilmiau. Mae'r delweddau hyn yn cynnig golwg newydd a thrawiadol o lwybrau’r sylwedd gwyn, gan ddangos y gyfres gymhleth o gysylltiadau sy'n sail i'r ymennydd.
Gwirfoddolwr arall a gafodd ei sganio oedd Siân Rowlands, sydd â sglerosis ymledol. Mae sganiau arferol yn dangos anafiadau clir – mannau sydd wedi eu niweidio – yn ymennydd cleifion â sglerosis ymledol. Ond mae'r sgan uwch, sy'n dangos dwysedd acsonig, yn gallu esbonio sut mae'r anafiadau'n effeithio ar lwybrau echddygol a gwybyddol – sy'n gallu achosi problemau symudedd Siân, a'i blinder llethol.
Meddai'r Athro Derek Jones, Cyfarwyddwr CUBRIC: “Mae’r manylion anhygoel yn y sganiau hyn yn amlygu’r posibiliadau sydd ar gael i dîm dawnus CUBRIC ac sydd bellach yn gallu defnyddio’r cyfarpar mwyaf datblygedig o'i fath yn y byd.
“Bydd y sganiwr microstrwythurol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymchwil a allai gael effaith hynod gadarnhaol ar fywydau pobl ledled y byd…”
Mae CUBRIC yn dod ag arbenigedd ynghyd sydd wedi galluogi Prifysgol Caerdydd i ennill ei phlwyf fel un o’r tair prifysgol orau yn y DU ym meysydd Seicoleg, Seiciatreg a Niwrowyddoniaeth, ochr yn ochr â phrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.
Offer niwroddelweddu gorau yn y byd
Mae'r Ganolfan £44m, a gynlluniwyd gan gwmni pensaernïol a thechnoleg rhyngwladol IBI Group, ac a adeiladwyd gan gwmni adeiladu BAM, bedair gwaith yn fwy na chyfleusterau ymchwil delweddu'r ymennydd presennol y Brifysgol. Mae ganddi’r offer niwroddelweddu gorau yn y byd i helpu i ddatrys dirgelion yr ymennydd dynol.
Mae'r cyfleuster newydd wedi'i ariannu'n rhannol gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC), Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC), Ymddiriedolaeth Wellcome, Llywodraeth Cymru a Sefydliad Wolfson.
Gyda'i gilydd, mae'r buddsoddiadau hyn yn cefnogi arloesedd ym maes ymchwil delweddu'r ymennydd o’r radd flaenaf, gan gynnwys creu swyddi ymchwil hynod fedrus yng Nghymru.