Cae perffaith
24 Tachwedd 2014
Mae rheolwr pêl-droed Cymru, Chris Coleman, wedi agor yn swyddogol cae 3G (trydedd genhedlaeth) o'r radd flaenaf y Brifysgol.
Mae'r cae newydd ar Gaeau Chwarae'r Brifysgol yn Llanrhymni wedi bod yn cael ei ddefnyddio ers dechrau'r flwyddyn academaidd, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer gemau chwaraeon myfyrwyr mewn unrhyw dywydd. Mae'r cae'n defnyddio technoleg arwyneb arloesol sy'n fwy realistig nag unrhyw gaeau eraill â glaswellt synthetig; mae hefyd yn fwy diogel na glaswellt ac mae gofynion cynnal a chadw a chostau'n isel.
Fe wnaeth yr Athro Patricia Price, Dirprwy Is-ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd, dorri'r rhuban gyda Chris Coleman. Dywedodd: "Mae hwn yn fuddsoddiad allweddol ar gyfer y Brifysgol a fydd yn galluogi myfyrwyr i ddefnyddio cyfleusterau o'r ansawdd uchaf a chwarae a hyfforddi mewn unrhyw dywydd. Rydym yn ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Pêl-droed Cymru am gyfrannu at ariannu'r cae, ac rwy'n falch iawn bod Chris Coleman wedi gallu ymuno â ni i agor y cyfleuster newydd, rhyfeddol hwn."
Dywedodd Stuart Vanstone, Pennaeth Chwaraeon Prifysgol Caerdydd: "Mae gan y Brifysgol oddeutu 65 o glybiau chwaraeon a dros 150 o dimau yn cystadlu a hyfforddi bob wythnos. Mae'r cae bob tywydd yn cynnal y rhan fwyaf o'r gweithgareddau, ac mae eisoes yn cael effaith gadarnhaol ar berfformiad y timau sy'n chwarae arno. Hyd yn hyn y tymor hwn, nid oes unrhyw gêm wedi cael ei chanslo oherwydd tywydd garw. Mae gemau a fyddai wedi cael eu gohirio'n flaenorol wedi cael eu chwarae ar y cae 3G."
Yn ddiweddar, mae'r cae wedi cael ei ddefnyddio gan dimau rygbi rhyngwladol ar daith, o Awstralia, Fiji a Seland Newydd, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu gemau yn erbyn Cymru fel rhan o Gyfres Gemau Rhyngwladol yr Hydref. Yr wythnos hon, bydd tîm De Affrica yn hyfforddi ar y cae cyn eu gêm yn Stadiwm y Mileniwm.