O Fainc y Labordy i’r Meinciau Cefn
24 Tachwedd 2014
Bydd Dr James Colley o Brifysgol Caerdydd yn cyfnewid cot labordy am ddeddfwriaeth, pan fydd yn ymweld â'r Aelod Seneddol Kevin Brennan yn Nhŷ'r Cyffredin ar gyfer "Wythnos yn San Steffan" fel rhan o gynllun paru unigryw sy'n cael ei gynnal gan y Gymdeithas Frenhinol – academi wyddoniaeth genedlaethol y DU.
Yn ystod ei ymweliad â San Steffan, bydd Dr Colley, sy'n arbenigwr mewn geneteg canser o Ysgol Feddygaeth y Brifysgol yn cysgodi Mr Brennan ac yn dysgu am ei waith. Yn ogystal â mynychu seminarau a thrafodaethau panel, bydd Dr Colley yn mynychu sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog a Phwyllgor Dethol Ffug ar Wyddoniaeth a Thechnoleg. Bydd yr ymweliad yn cynnig cipolwg tu ôl i'r llenni i Dr Colley o'r modd y llunnir polisi gwyddoniaeth, yn ogystal â dealltwriaeth o fywyd gweithio seneddwr.
Dywedodd Dr Colley: "Bydd y datblygiadau presennol mewn geneteg yn chwyldroi gofal meddygol yn y blynyddoedd i ddod, ond mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r bylchau gwybodaeth sy'n digwydd rhwng genetegwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol a'r cyhoedd. Rwy'n gobeithio gweld sut gellir defnyddio deddfwriaeth i hyrwyddo'r ddealltwriaeth o eneteg, a galluogi pobl i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â'u hiechyd."
Nod Cynllun Paru'r Gymdeithas Frenhinol yw adeiladu pontydd rhwng seneddwyr a rhai o'r gwyddonwyr gorau yn y DU. Mae'n gyfle i seneddwyr a gweision sifil ddod yn fwy gwybodus ynghylch materion gwyddoniaeth ac i wyddonwyr ddeall sut gallant ddylanwadu ar bolisi gwyddoniaeth. Mae dros 300 o barau o wyddonwyr, seneddwyr a gweision sifil wedi'u partneru ers lansio'r cynllun yn 2001.
Dywedodd Syr Paul Nurse, Llywydd y Gymdeithas Frenhinol:
"Rydym y byw mewn byd sy'n wynebu heriau cynyddol, a chael dealltwriaeth glir o wyddoniaeth yw'r unig ffordd i fynd i'r afael â'r heriau hynny. O'r hinsawdd yn newid i achosion o afiechydon heintus, o organebau wedi'u haddasu'n enetig i dechnoleg a diogelwch, mae'n rhaid i'n llunwyr polisi wneud penderfyniadau ynglŷn â materion a fydd yn effeithio ar fywydau pawb yn y DU, ac mewn llawer o achosion, y gymuned fyd-eang. Golyga hyn fod gan lunwyr polisi a gwyddonwyr gyfrifoldeb i ymgysylltu â'i gilydd er mwyn cael y cyngor gwyddonol gorau posibl yn y broses o lunio polisi cyhoeddus.
"Aethom ati i sefydlu Cynllun Paru'r Gymdeithas Frenhinol yn 2001 i gynnig y cyfle i ASau a gwyddonwyr i feithrin perthnasoedd hirdymor â'i gilydd. Erbyn hyn rydym wedi trefnu dros 300 o barau ac wedi ehangu'r cynllun i gynnwys partneriaethau rhwng gwyddonwyr a gweision sifil ac aelodau Tŷ'r Arglwyddi.
"Mae seneddwyr a gwyddonwyr sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun wedi elwa ar eu profiadau a dim ond gwella gall y broses o lunio polisi cyhoeddus ei wneud dros amser wrth i'r perthnasoedd hyn barhau i dyfu."