Dysgu o effeithiau cymunedol llofruddiaeth Lee Rigby
25 Tachwedd 2014
Mae troseddegwyr a chyfrifiadurwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn ystyried pa wersi y gellir eu dysgu yn sgil llofruddiaeth Lee Rigby er mwyn rheoli effeithiau cymunedol ymosodiadau terfysgol o'r fath.
Mae adroddiad y Pwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch (ISC) a gyhoeddir heddiw (25 Tachwedd) yn datgan y bydd yn amhosibl atal ymosodiadau terfysgol gan unigolion sy'n gweithredu'n annibynnol yn y dyfodol. Cynhaliwyd yr astudiaeth, a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), gan ymchwilwyr yn Athrofa Gwyddorau'r Heddlu y Prifysgolion a'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg i amlygu'r gwersi ar gyfer rheoli canlyniadau terfysgaeth yn well pan fydd yn digwydd.
Darganfu'r ymchwil:
* Fod y cyfryngau cymdeithasol yn dylanwadu fwyfwy ar hynt a naws ymateb y cyhoedd. Mae'r ymchwil wedi dilyn traffig ar y cyfryngau cymdeithasol o'r neges drydar gyntaf o leoliad y drosedd i ddiwedd yr achos llys. Darganfu'r ymchwil y canlynol:
o bod goblygiadau gan y cyfryngau cymdeithasol i ymateb cyntaf yr heddlu i ymosodiadau o'r fath, gyda thystion yn trydar yn uniongyrchol o leoliad y drosedd;
o bod y cyfryngau cymdeithasol yn dod yn ffynhonnell wybodaeth allweddol i'r cyhoedd pan fydd digwyddiadau o'r fath yn digwydd; ar ei anterth, bu dros 800 o negeseuon trydar y funud am lofruddiaeth Lee Rigby;
o cafodd yr unigolion dan amheuaeth o gyflawni'r drosedd eu henwi'n gyntaf ar Twitter – sawl awr cyn i'r cyfryngau darlledu ryddhau eu henwau.
* Yn y diwrnodau a'r wythnosau ar ôl y llofruddiaeth, bu cynnydd pendant mewn troseddau casineb a throseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus. Digwyddodd y rhain mewn gwahanol drefi a dinasoedd ar draws y wlad.
* Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ffydd pobl ifanc Fwslimaidd y bydd yr heddlu'n eu trin yn deg wedi bod yn dirywio (fel y gwelir yn y graff isod). Mae goblygiadau pwysig gan hyn i Strategaeth Atal y Llywodraeth ac i sut y defnyddir adnoddau gwrthderfysgaeth yn dilyn digwyddiadau yn y dyfodol.
Ffigur 1: Canran y newid ymhlith dynion a menywod ifanc Mwslimaidd sydd o'r farn y byddai'r heddlu'n eu trin yn deg
Meddai'r Athro Martin Innes, Cyfarwyddwr Athrofa Gwyddorau'r Heddlu y Prifysgolion, sy'n arwain yr ymchwil: "Mae llawer o sylw yn canolbwyntio ar sut y gellir monitro'r cyfryngau cymdeithasol i ddarganfod unigolion sy'n peri risg bosibl o derfysgaeth. Ond, fel y mae Adroddiad y Pwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch yn ei amlygu, mae hyn yn llawer anoddach yn ymarferol nag y byddid yn ei feddwl, ac ni ellir canfod pob ymosodiad, yn enwedig y rhai gan unigolion yn gweithredu'n annibynnol. Yn adlewyrchu hyn, mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei ddysgu o lofruddiaeth Lee Rigby at y dyfodol o safbwynt gwella'r rheolaeth ar effeithiau cymunedol pan fydd ymosodiadau terfysgol yn digwydd.
"Mae ein gwaith wedi dangos bod y cyfryngau cymdeithasol yn fwyfwy pwysig wrth ddylanwadu ar sut mae'r cyhoedd yn deall ymosodiadau o'r fath a beth sy'n digwydd wedi hynny. Mae canlyniadau pwysig iawn i'r heddlu a'r awdurdodau o dawelu sefyllfa llawn tensiwn a lleihau'r cyfleoedd am y mathau o 'droseddau eilaidd' a welwyd yn dilyn llofruddiaeth Lee Rigby."
Ariannwyd prosiect ymchwil 'Ar ôl Woolwich' gan yr ESRC o dan eu Cynllun Grantiau Blaenoriaethau Brys: http://www.esrc.ac.uk/my-esrc/grants/ES.L008181.1/read.