Graddedigion Prifysgol Caerdydd yn parhau i fod ymysg y rhai mwyaf cyflogadwy yn y DU
6 Gorffennaf 2017
Yn ôl ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau, 6 Gorffennaf 2017), mae 95% o raddedigion Prifysgol Caerdydd naill ai mewn swydd, yn astudio, neu'n gweithio ac yn astudio, ymhen chwe mis ar ôl graddio.
Mae'r ffigurau diweddaraf o arolwg yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) am Ymadawyr Addysg Uwch, yn dangos bod 94.8% o ymadawyr gradd gyntaf amser llawn yn 2015/16 wedi'u cyflogi, yn astudio, neu'n gweithio ac yn astudio.
Mae hyn fymryn yn uwch na'r llynedd (94.1%) ac mae’n dangos bod Prifysgol Caerdydd yn parhau i fod yn uwch na chyfartaledd y DU (94.3%), Lloegr (94.2%) a Chymru (94.7%).
“Mae'r ffigurau hyn yn cadarnhau bod galw mawr am raddedigion Prifysgol Caerdydd ymysg cyflogwyr, a bod ganddynt y sgiliau cywir i wneud rhagor o astudio,” yn ôl y Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd a Phrofiad Myfyrwyr yn y Brifysgol, yr Athro Amanda Coffey.
“Mae cydweithwyr ar draws y Brifysgol yn gweithio'n galed i ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen ar ein myfyrwyr i roi damcaniaeth ar waith yn ymarferol. Mae rhoi profiad o fyd gwaith hefyd yn agweddau pwysig ar baratoi ein graddedigion ar fywyd y tu allan i fyd addysg.
“Oherwydd hynny, rydym yn parhau i fod yn uchel ein parch ymhlith cyflogwyr ac mae gan ein graddedigion gofnod cyflogaeth rhagorol wrth i fyfyrwyr ddod o hyd i waith cyflogedig neu ymgymryd â hyfforddiant pellach.”