Dr John Davies (1938 - 2015)
17 Chwefror 2015
"'Wy'n teimlo bod darllen rhywbeth yn fwy diddorol na siarad â phobl... Pan wela i bobl sydd ddim yn darllen wy'n meddwl, be' ddiawl maen nhw'n wneud gyda'u hamser? Beth arall sydd?" (Dr John Davies)
Cafodd yr Hanesydd o Gymru, John Davies, ei eni yn Llwynypia, Rhondda Fawr, yn 1938. Treuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Nhreorci, cyn symud i Fwlchllan, Ceredigion ar ddiwedd yr ail ryfel byd (cafodd ei alw'n 'John Davies Bwlchllan' byth oddi ar hynny).
Astudiodd am radd mewn Hanes yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, (Prifysgol Caerdydd bellach) ac yna ar gyfer ei ddoethuriaeth yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt. Cafodd ei draethawd ymchwil ei gyhoeddi yng nghyfres monograff Gwasg Prifysgol Cymru, 'Studies in Welsh History', fel 'Cardiff and the Marquesses of Bute' yn 1981. Cafodd ei ail-argraffu yn 2011 ac mae'n parhau i'w ystyried yn garreg filltir fel achos astudiaeth ar ddylanwad y boneddigion ar ddatblygiad trefol Prydain.
Dysgodd John yng Ngholeg Prifysgol Abertawe ac yna treuliodd gweddill ei yrfa academaidd yn Aberystwyth, lle bu'n warden yn Neuadd Pantycelyn am 18 mlynedd. Yn athro carismatig os idiosyncratig, roedd yn hael gyda'i amser a'i letygarwch, yn cefnogi ysgolheigion ifanc ac yn ymrwymedig iawn i'r iaith Gymraeg a'r genedl Gymreig.
Ei gyflawniad mwyaf nodedig oedd 'Hanes Cymru', cyfrol cyfrwng Cymraeg am hanes Cymru a phobl Cymru a gyhoeddwyd gan Allen Lane yn 1990, ac yn Saesneg fel 'A History of Wales' yn 1993. Cyhoeddwyd fersiynau diwygiedig yn 2007 a 2014. Mae hwn yn waith rhyfeddol o ddysgedig a chain yn dangos dawn yr awdur i adrodd stori a datgelu manylder. Mae hefyd yn dangos ymrwymiad i gyfathrebu stori genedlaethol benodol i ddarllenwyr ar lefel ehangach Ewropeaidd.
Ysgrifennodd nifer o weithiau arwyddocaol eraill: 'Broadcasting and the BBC in Wales' (1994), 'The Making of Wales' (1996), 'The Celts' (2000), 'Cardiff: A Pocket Guide' (2002), Wales: 100 Places to See Before You Die' (2010) a'i hunangofiant, 'Fy Hanes i'. Roedd yn un o bedwar golygydd Gwyddoniadur Cymru/Encyclopaedia of Wales yr Academi Gymreig. Wedi ymddeol o ddysgu, ymgartrefodd John yng Nghaerdydd gan fwynhau ail yrfa lwyddiannus fel darlledwr teledu a radio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'n gadael ei wraig, Janet, ei hun yn hanesydd nodedig a phedwar o blant.
- Chris Williams, Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.
Llun o Dr John Davies: S4C