Posibilrwydd mai “saethu cyfeillgar” y system imiwnedd sy’n gyfrifol am farwolaethau oherwydd canser y coluddyn
17 Chwefror 2015
Mae ymchwil newydd yn awgrymu y gallai cleifion sy'n gwella ar ôl llawdriniaeth canser y coluddyn fod â risg uwch o ailglafychu os yw eu gwaed yn dangos ymateb imiwn i brotein penodol, a elwir yn antigen carsinoembryonig (CEA).
Trwy lywio strategaeth driniaeth fwy pwrpasol yn dilyn llawdriniaeth, gallai'r canfyddiadau arwain yn y pen draw at brognosis gwell ar gyfer cleifion, dywed gwyddonwyr.
Mae tua 40,000 o bobl yn y DU yn cael diagnosis o ganser y coluddyn bob blwyddyn, sy'n ei wneud y math ail fwyaf cyffredin o ganser yn y DU. Lle bo hynny'n bosibl, mae clinigwyr yn ceisio cael gwared ar diwmorau trwy lawdriniaeth gyda'n nod o iacháu cleifion, er bod bron i hanner yr holl gleifion sy'n cael llawdriniaeth yn ailglafychu neu'n marw o glefyd metastatig.
Mewn gwaith a gyhoeddir heddiw yn Journal of the National Cancer Institute (JNCI), mae ymchwilwyr o Ysgol Meddygaeth Caerdydd yn disgrifio mesur ymateb imiwn mewn gwaed a gymerwyd o 64 o gleifion â chanser y coluddyn cyn iddynt gael llawdriniaeth i gael gwared ar eu tiwmorau.
Ar ôl olrhain eu prognosis dros
gyfnod dilynol o bum mlynedd, gwelwyd bod 33 o gleifion wedi marw ar ôl
llawdriniaeth; gellid priodoli 25 o'r rhain i ddychweliad y canser. Er bod cam
datblygiad y tiwmor, fel sydd eisoes yn hysbys, yn bwysig mewn prognosis, mae
presenoldeb neu absenoldeb adnabyddiaeth imiwn gwrth-CEA gan gelloedd gwyn yng
ngwaed y cleifion yn bwysicach fyth yn ystadegol o ran nodi cleifion gyda risg
uwch o ail-glafychu â thiwmor.
Cynhaliwyd yr ymchwil yn labordy'r Athro Andrew Godkin a'r Athro Awen Gallimore
o'r Ysgol Meddygaeth. Dywedodd yr Athro Godkin y bydd sefydlu ai'r ymateb imiwn
hwn sy'n gyfrifol am farwolaethau cleifion yn gofyn am ymchwil pellach. Yn y
cyfamser, maent yn dadlau y bydd y canfyddiadau'n ysgogi llawer o drafodaeth a
diddordeb ymhlith gwyddonwyr sydd â diddordeb mewn harneisio ymatebion celloedd
T ar gyfer therapi canser.
Dywedodd yr Athro Godkin: "Mae llawer o ddiddordeb ymhlith gwyddonwyr a chlinigwyr mewn archwilio dulliau i hybu gallu'r celloedd gwyn megis lymffocytau T i adnabod a lladd tiwmorau. Fodd bynnag, nid yw pob ymateb gan gelloedd T yn dda i chi; mae grwpiau ymchwil eraill wedi dangos eisoes bod celloedd T wedi'u cyfeirio yn erbyn CEA yn gallu achosi gweddill y perfedd i ddechrau gollwng mewn sefyllfa debyg i ymosodiad 'saethu cyfeillgar' ar gelloedd iach. Dyma un esboniad posibl ar gyfer canfyddiadau ein hastudiaeth.
"Mae'r canlyniadau'n ddiddorol, ac rydym bellach yn archwilio esboniadau yn y labordy. Fodd bynnag, yr hyn y mae'r papur hwn yn ei wneud yw tynnu sylw at y ffordd y gallai adnabod rhai mathau o ymatebion imiwn (h.y. y rhai sydd wedi'u cyfeirio at CEA), gynorthwyo gyda nodi cleifion sydd angen strategaethau triniaeth ychwanegol ar ôl llawdriniaeth er mwyn gwella eu prognosis hirdymor."
Dywedodd Dr Lee Campbell, Rheolwr Prosiectau Ymchwil a Chyfathrebu Gwyddoniaeth gydag Ymchwil Canser Cymru: "Er bod diddordeb mawr mewn harneisio grym y system imiwnedd i guro canser, mae'r darn pwysig hwn o ymchwil a gynhaliwyd gyda chleifion canser y coluddyn yn dangos yn glir pa mor hanfodol y bydd cael dealltwriaeth lawn o'r ffordd y mae'r system imiwnedd yn targedu tiwmorau, os ydym i ddefnyddio therapïau o'r fath yn effeithiol. Gan mai canser y coluddyn yw'r canser mwyaf cyffredin i gael ei ganfod yng Nghymru, mae Ymchwil Canser Cymru yn falch o fod yn gysylltiedig â'r darn mor hanfodol hwn o waith."
Cyllidwyd yr ymchwil gan Ymchwil Canser Cymru, Ymddiriedolaeth Wellcome ac elusen canser Tenovus.