Nid yw newyddiaduraeth yn drosedd
18 Chwefror 2015
Bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal darlith gan newyddiadurwr Al-Jazeera, Peter Greste, i fyfyrwyr ac aelodau staff ddydd Gwener 20 Chwefror 2015.
Ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar yn yr Aifft yn ddiweddar, mae Peter Greste yn ymweld â'r DU i gyflwyno cyfres o ddarlithiau am gael ei arestio a'i ddedfrydu yn y carchar am 400 diwrnod. Mae ei ymweliad yn rhan o ymgyrch Al-Jazeera i godi ymwybyddiaeth o newyddiadurwyr eraill sy'n dal i wynebu cyhuddiadau.
Bydd Peter yn trafod yr ymgyrch barhaus sy'n cefnogi ei gydweithwyr, Baher Mohamed a Mohamed Fahmy, a'r problemau sy'n gysylltiedig ag adrodd o'r Dwyrain Canol a'r cysylltiadau cynyddol rhwng gwleidyddiaeth a newyddiaduraeth.
Dywedodd yr Athro Richard Sambrook, Cyfarwyddwr Canolfan Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd: "Tynnodd hanes Peter Greste a'i gydweithwyr yn Al-Jazeera sylw at y peryglon mae newyddiadurwyr sy'n adrodd o wledydd ymfflamychol yn eu hwynebu.
"Cododd gwestiynau am ddilysrwydd newyddiaduraeth annibynnol, gan ofyn cwestiynau am wrthwynebwyr gwleidyddol yn ogystal â'r rheiny sydd mewn grym."
Arweiniodd dedfryd Peter Greste a'i gydweithwyr
o Al-Jazeera at ymgyrch ar Twitter yn defnyddio'r hashnodau #freeAJStaff
a #journalismisnotacrime, a gafodd eu cefnogi gan fyfyrwyr newyddiaduraeth
Prifysgol Caerdydd yn
2013 a 2014.
Mae'n rhaid i chi gofrestru o flaen llaw i fynychu'r digwyddiad. Gall myfyrwyr a staff gofrestru trwy ddefnyddio Eventbrite.