Academyddion o Gaerdydd yn casglu gwobrau ffiseg o fri
3 Gorffennaf 2017
Mae dau aelod o staff Prifysgol Caerdydd wedi derbyn medalau o fri gan y Sefydliad Ffiseg (IOP).
Dyfarnwyd Medal a Gwobr Fred Hoyle i Dr Jane Greaves o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth am ei “chyfraniad sylweddol i’n dealltwriaeth o ffurfiant planedau a chyfanedd-dra ecsoblanedau trwy ei delweddu arloesol o ddisgiau malurion o amgylch sêr tebyg i’r Haul a gwrthrychau sy’n rhan o gysawd yr haul gan ddefnyddio telesgopau isgoch-pell”.
Dyfarnwyd i Wendy Sadler MBE, darlithydd rhan-amser yn yr ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, Fedal a Gwobr William Thomson, Arglwydd Kelvin am sefydlu science made simple - menter allgymorth gwyddoniaeth sydd wedi cyrraedd dros 750,000 o bobl trwy berfformiadau byw sy’n hybu perthnasedd y gwyddorau ffisegol i gymdeithas a gyrfaoedd.
Mae gwobrau blynyddol IOP yn cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth mewn pobl a thimau sydd wedi gwneud cyfraniadau rhagorol ac eithriadol i gryfder ffiseg.
Dyfarnir Medal a Gwobr Fred Hoyle i rywun am eu cyfraniadau nodedig i astroffiseg, ffiseg ddisgyrchol neu gosmoleg. Medal arian yw hi, ac i gyd-fynd â hi mae gwobr o £1,000 a thystysgrif.
Bydd Dr Greaves yn casglu’r fedal arian hon, yn ogystal â gwobr o £1000 a thystysgrif, am ei chyfraniad arloesol i’n dealltwriaeth o broses cyfanedd-dra planedau, ffurfiant planedau a ffurfiant sêr mewn gwahanol amgylcheddau.
Rhoddir Medal a Gwobr William Thomson, Arglwydd Kelvin i gydnabod pwysigrwydd hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o le ffiseg yn y byd, cyfraniadau ffiseg i ansawdd bywyd a sut mae’n hybu dealltwriaeth o'r byd ffisegol a lle’r ddynoliaeth ynddo.
Bydd Wendy yn casglu’r fedal aur hon, yn ogystal â gwobr o £1000 a thystysgrif, am fod yn eiriolwr dros bwysigrwydd ffiseg ac addysg ffiseg ym mholisi’r llywodraeth, yn ogystal â bod yn fodel rôl ar gyfer gwyddonwyr ifanc, ac yn llysgennad dros ffiseg.
Science made simple
Dyfarnwyd MBE hefyd i Wendy, a sefydlodd science made simple ar ôl graddio o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, yn anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines yn 2017 am wasanaethau i wyddoniaeth, cyfathrebu peirianneg ac ymgysylltiad.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Wendy: “Mae’n gymaint o anrhydedd derbyn hyn yn gydnabyddiaeth gan y gymuned ffiseg...”
Wrth sôn am y gwobrau, dywedodd llywydd yr IOP, yr Athro Roy Sambles: “Mae'r gwobrau hyn yn dathlu ac yn cydnabod ffiseg rhagorol, a hynny gan ffisegwyr - ac mae ein cymuned yn eu defnyddio i anrhydeddu’r rhai sy’n cynhyrchu’r gwaith gorau oll.
“Mae'n wych gweld creadigrwydd yn parhau ac ymdrechion blaengar ar draws pob maes ffiseg ledled y Deyrnas Unedig, Iwerddon ac yn rhyngwladol. Mae ansawdd y gwaith a'r rhai sy'n ei wneud yn dangos bod gennym ddyfodol disglair iawn o'n blaenau.
“Carwn fynegi llongyfarchiadau gwresog i'r holl enillwyr.”