Datblygu busnes-amaeth cynaliadwy
29 Mehefin 2017

Wrth i brisiau ar gyfer cnydau Uganda taro’r gwaelod, mae cydweithrediad o Cymru - Community Enterprise Model for Plant Oil Production (CEMPOP) yn gweithio i ddatblygu a threialu busnes amaeth cynaliadwy sy'n cefnogi cymunedau lleol.
Gan ddefnyddi arbenigedd Prifysgol Caerdydd a IGO Ltd, mae'r prosiect yn tyfu planhigion amgen a fyddai'n helpu cynhyrchwyr gynhyrchu incwm gwell.
Ffermio cynhaliaeth yw'r prif weithgaredd economaidd yn ardaloedd wledig o Uganda, felly mae y gostyngiad ym mhris cnydau yn golygu bod llawer o bobl ifanc yn symud i drefi a dinasoedd yn chwilio am ddyfodol gwell.

Er mwyn ceisio gwrthweithio hyn mae'r prosiect yn gweithio gyda ffermwyr masnachol, a sefydliadau Ugandaidd fel Ieuenctid Kyoga a Menter Gymunedol Menywod, i ymgysylltu â chymunedau lleol ac i’w helpu i ddatblygu amgen posibl i dyfu cnydau arferol, a'u disodli gyda Peppermint.
Dywedodd Peter Randerson aelod o CEMPOP, a darlithydd yn Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: “Rydym wedi ceisio sefydlu'r prosiect yn y modd mwyaf sensitif posibl i’r amgylchedd, gan ddefnyddio deunyddiau ac arbenigedd lleol i glirio darn o dir i greu y meithrinfa planhigion…”

“Rydym hefyd yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau gwahanol i dyfu'r planhigion i ddod o hyd i'r dulliau mwyaf effeithlon sydd yn bosibl, y gellir yn hawdd ei barhau gan y gymuned leol, fel y gallant elwa.”

Bydd y cynhyrchiad, echdynnu, prosesu a marchnata olewau hanfodol organig yn creu cyfleoedd parhaol ar gyfer merched ac ieuenctid gwledig Uganda, ynghyd â chyfleoedd addysgol i fyfyrwyr yng Nghaerdydd.
Dywedodd Cat Jones, Pennaeth Partneriaeth Hub Cymru Africa: “Mae'r prosiect arloesol hwn yn enghraifft wych o waith partneriaeth ystyriwyd yn dda, gydag arbenigedd o ran yr elfennau technegol, megis samplo a phrofi yn cael ei ddarparu gan Brifysgol Caerdydd a IGO Ltd, a sgiliau ymgysylltu a ffermio ymarferol lleol yn cael ei ddarparu gan y partneriaid Uganda.
“Mae prosiectau fel hyn yn creu amgylchedd o ddysgu a rennir, gyda manteision i bawb sy'n gysylltiedig.”