Caerdydd Danddaearol: Dylan Foster Evans yn rhoi’r ddinas Gymraeg ar y map
28 Mehefin 2017
Bydd map trên tanddaearol a gaiff ei gyhoeddi heddiw (28 Mehefin) yn dangos Caerdydd mewn ffordd unigryw gan gynnig cipolwg cyffrous ar hanes a phresennol y brifddinas.
Mae’r map yn ffrwyth cydweithio rhwng yr arbenigwr ar hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd, Dr Dylan Foster Evans (Ysgol y Gymraeg); Christian Amodeo, perchennog cwmni I Loves the ’Diff; a Phwyllgor Codi Arian Eisteddfod 2018 Pen-y-lan, Cyncoed, Parc y Rhath a Cathays.
Yn dilyn syniad gwreiddiol gan y Pwyllgor, daeth Dylan a Christian ynghyd i ffurfio partneriaeth unigryw er mwyn dychmygu sut y byddai’r Gaerdydd Gymraeg yn edrych ar fap Trên Tanddaearol Llundain.
Bydd y map yn datgelu rhai o’r enwau Cymraeg hynaf yng Nghaerdydd gan hefyd dalu teyrnged i rai o fawrion y brifddinas, megis y canwr Geraint Jarman a’r athletwraig baralympaidd Tanni Grey-Thompson. Mae’n cynnwys enwau gwahanol ardaloedd y ddinas, megis y Rhath, y Waun Ddyfal a Threganna, a ynghyd â rhai o leoliadau mwyaf adnabyddus Caerdydd megis cerflun Aneurin Bevan ar Heol y Frenhines ac adeilad y Senedd yn y Bae.
Answyddogol a ‘thanddaearol’
Ac, yn gyson â natur answyddogol a ‘thanddaearol’ y map, mae Dylan Foster Evans wedi manteisio ar y rhyddid i dynnu ar ei ymchwil ar hanes y ddinas i lunio enwau newydd ar gyfer rhai o’r gorsafoedd dychmygol. Un eu plith y mae gorsaf yn enw Llywelyn Bren, y gŵr a arweiniodd y Cymry lleol mewn gwrthryfel ym Morgannwg yn 1316. Bydd 2018 (blwyddyn yr Eisteddfod) yn nodi 700 mlynedd ers dienyddio Llywelyn yng Nghaerdydd a’i gladdu gerllaw yn Nhŷ’r Brodyr Llwydion.
Mae’r map hefyd wedi mynd ati’n fwriadol i arddangos rhai o enwau gwreiddiol Caerdydd sydd, mewn rhai achosion, wedi eu hen anghofio. Mae’r rhain yn cynnwys Heol y Plwca (City Road), Y Cimdda (ardal Parc Victoria) a Sarn Fid Foel (North Road).
Roedd Christian Amodeo o I Loves the ’Diff wrth ei fodd yn cael bod yn rhan o’r prosiect: "Pan drafodwyd y syniad o gael map o’r math yma ar gyfer yr Eisteddfod, mi roeddwn yn awyddus o’r dechrau’n deg. Dwi’n meddwl ei fod yn syniad rhagorol. Mae’n dda gwybod bod y tîm disglair nid yn unig wedi sicrhau manylder ieithyddol ond maen nhw hefyd wedi ychwanegu llawer o flas diwylliannol. Dwi’n gobeithio ychwanegu nodiadau ar wefan ilovesthediff.com er mwyn esbonio’r rhesymau dros enwau nifer o’r gorsafoedd!"
Dywed Dylan yntau fod y map yn ceisio cyflawni dau beth gwahanol: "Mae’r map yn cyflwyno enwau Cymraeg ar gyfer nifer o strydoedd ac atyniadau Caerdydd gan eu rhoi yn llythrennol ar y map mewn ffordd sy’n ffres a chwareus. Ond mae hefyd yn ceisio datguddio peth o hanes cudd yr iaith Gymraeg yn y ddinas. Ar adegau, mae’r brifddinas wedi bod yn gyndyn i ddathlu ei hetifeddiaeth ieithyddol ac mae yna wastad berygl y bydd y dreftadaeth gyfoethog honno yn cael ei hanghofio. Mae’r map hardd hwn yn fodd i sicrhau nad yw ein hanes yn cael ei golli ac mae’n wych ei fod hefyd yn codi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018."