Carreg filltir ar gyfer ymchwil ac addysg ym maes newyddiaduraeth
26 Mehefin 2017
Mae cartref newydd Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd wedi cyrraedd carreg filltir bwysig.
Cynhaliwyd seremoni cyrraedd copa Rhif 2 y Sgwâr Canolog yng nghanol y ddinas i ddathlu datblygiad y gwaith adeiladu wrth gyrraedd pwynt uchaf yr adeilad newydd.
Roedd yr Athro Stuart Allan, Pennaeth yr Ysgol a’r Athro Karen Holford, Rhag Is-Ganghellor y Brifysgol yn bresennol, yn ogystal â chynrychiolwyr o BBC Cymru Wales a Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, a oedd wedi cael gwahoddiad i’r digwyddiad.
“Prifddinas greadigol”
Meddai’r Athro Stuart Allan, Pennaeth yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol: “Dyma ddigwyddiad pwysig i’r Brifysgol gan ei fod yn gyfle i ni rannu ein balchder ym muddsoddiad Prifysgol Caerdydd. Ein nod yw bod ar flaen y gad ym maes addysg newyddiaduraeth a’r cyfryngau yng nghanol Caerdydd fel prifddinas greadigol.”
A hithau y drws nesaf i’r darlledwr cenedlaethol BBC Cymru Wales, bydd symud yr Ysgol i Rif 2 y Sgwâr Canolog yn meithrin cysylltiadau cryfach â’r diwydiant. Bydd hefyd yn rhoi hwb i gyflogadwyedd myfyrwyr trwy gynnig mynediad uniongyrchol i sefydliadau cyfryngau o bwys ym maes newyddiaduraeth a’r diwydiannau creadigol a diwylliannol.
Disgwylir i'r gwaith ddechrau ar gynllun a dyluniad mewnol yr Ysgol ym mis Awst 2017. Mae’r cynlluniau yn cynnwys darlithfa 300 sedd, chwe ystafell newyddion, ystafelloedd golygu penodedig, stiwdios teledu a radio, lle ymchwil i ôl-raddedigion, llyfrgell, a labordai ymgysylltu â rhanddeiliaid ac arloesi, ymhlith nodweddion eraill.
Mae’r adleoli’n rhan o fuddsoddiad ehangach o £260m gan y Brifysgol i drawsnewid profiad ei myfyrwyr. Bydd y Brifysgol yn buddsoddi cyfanswm o £600m dros y blynyddoedd nesaf i ddarparu cyfleusterau o’r radd flaenaf i fyfyrwyr, yn y cyfnod mwyaf o uwchraddio campws mewn cenhedlaeth.