Sgôr perffaith am foddhad myfyrwyr MA
26 Mehefin 2017
Mae Ysgol y Gymraeg wedi sgorio 100% am yr ail dro yn olynol am fodlonrwydd cyffredinol yn Arolwg Profiad Uwchraddedigion a Addysgwyd (PTES) 2017.
Arolwg ar-lein cenedlaethol yw’r Arolwg Profiad Uwchraddedigion a Addysgwyd ac mae’r canlyniadau newydd yn adlewyrchu barn myfyrwyr sy’n astudio MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn yr Ysgol eleni.
Mae’r arolwg yn gwerthuso saith maes thematig: Dysgu ac Addysgu; Ymgysylltu; Asesu ac Adborth; Traethawd Hir neu Brosiect Mawr; Trefniadaeth a Rheolaeth; Adnoddau a Gwasanaethau; a Datblygu Sgiliau.
Eleni, yn ogystal â sgorio 100% am fodlonrwydd cyffredinol gydag ansawdd y cwrs, sgoriodd yr Ysgol rhwng 90% a 100% mewn pum maes thematig:
- Asesu ac Adborth - 100%
- Dysgu ac Addysgu - 98%
- Datblygu Sgiliau - 97%
- Ymgysylltu - 90%
- Trefniadaeth a Rheolaeth - 90%
Wrth edrych yn fanwl ar adborth penodol y myfyrwyr mae nifer o uchafbwyntiau yn dod i’r amlwg, gan gynnwys consensws bod staff yn dda am ‘esbonio pethau’ (100%), ac ‘yn frwdfrydig am beth maen nhw'n ei ddysgu’ (100%). Hefyd, dywedodd y myfyrwyr bod y ‘cwrs yn ysgogol ddeallusol’ (100%).
Meddai Dr Siwan Rosser, cydlynydd y rhaglen MA: “Rydym yn falch iawn o ganlyniadau diweddaraf arolwg PTES. Eleni eto, mae adborth myfyrwyr yn destun balchder ac yn tystio i arloesedd y rhaglen MA. Hoffwn ddiolch i staff academaidd a gwasanaethau proffesiynol yr Ysgol, eu hymdrechion nhw sydd wedi sicrhau’r canlyniadau arbennig hyn.
“Rydym wedi ymrwymo i broses barhaol o ddatblygu a chryfhau profiad addysgol ein myfyrwyr. Mae derbyn adborth gonest ac adeiladol yn uniongyrchol gan fyfyrwyr felly’n bwysig iawn i ni. Byddwn yn ystyried holl ganlyniadau’r arolwg diweddaraf wrth inni lunio cynlluniau i gynnal a gwella safon ein darpariaeth.”
Darllenwch ragor am raglen MA Astudiaeth Cymreig a Cheltaidd yr Ysgol.