Ewch i’r prif gynnwys

Tîm o Brifysgol Caerdydd yn cael ei anrhydeddu am atal trais oherwydd ‘Model Caerdydd’

23 Mehefin 2017

Jonathan Shepherd

Mae model newydd o atal trais, a dreialwyd yng Nghaerdydd yn gyntaf, yn cael ei efelychu ledled y byd o Lundain i Awstralia. Mae hyn wrth i'r model ddathlu ei ben-blwydd yn 20 oed mewn digwyddiad arbennig yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Model atal trais yw hwn sy'n seiliedig ar ddata a rennir rhwng ysbytai, yr heddlu ac awdurdodau lleol, a thros yr ugain mlynedd diwethaf mae lefelau trais yn ardal Caerdydd wedi gostwng yn sylweddol o ganlyniad i Fodel Caerdydd. Cafodd ei greu gan yr Athro Jonathan Shepherd, Cyfarwyddwr Grŵp Ymchwilio i Drais Prifysgol Caerdydd wedi iddo weld nad yw'r heddlu'n gwybod am dri chwarter y digwyddiadau sy'n arwain at driniaeth mewn adran frys ysbytai.

Dywedodd yr Athro Shepherd: “Roedd pobl ar fy mwrdd llawdriniaeth bob wythnos wedi’u hanafu gan rywun na fyddai’n cael ei erlyn. Roedd y ffaith nad oedd yr heddlu'n cael gwybod am nifer fawr o droseddau treisgar yn agoriad llygad.”

Ychwanegodd: “Mae Model Caerdydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn yng Nghaerdydd. Mae data o'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn dangos bod 60% yn llai o bobl wedi mynd i'r Adran o ganlyniad i drais ers 2002. h.y. 30 o gleifion yn mynd i’r Adran o’i gymharu ag 80 yn flaenorol. Gyda'i gilydd, mae hyn yn golygu bod 65,000 yn llai o bobl yn mynd i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, a bod 950 yn llai o bobl wedi cael eu derbyn o ganlyniad i drais dros y 14 mlynedd...”

“Mae hyn wedi arbed dros £5m y flwyddyn yng nghostau iechyd, cymdeithasol a chyfiawnder troseddol Caerdydd.”

Yr Athro Jonathan Shepherd Athro Emeritws mewn Llawfeddygaeth y Geg, y Genau a'r Wyneb

“Yn llwyddiant ysgubol i Gaerdydd”

Meddai Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru: “Mae hyn wedi bod yn llwyddiant ysgubol i Gaerdydd. Mae canol ein dinas yn fwy diogel o ganlyniad i’r gwaith yr ydym yn ei ddathlu heddiw, ac mae’n rhywbeth y mae angen i ni ymffrostio ynddo a thynnu sylw ato.  Hoffwn dalu teyrnged i syniadau arloesol yr Athro Jon Shepherd wrth ddeall bod angen bod yn glinigol a chywir wrth fynd i’r afael â rhai o broblemau ein cymdeithas, yn union yr un modd a sut byddai wedi mynd i’r afael â phroblemau fel llawfeddyg yn flaenorol...”

“Mae Model Caerdydd yn parhau i fod yn gonglfaen ar gyfer sut rydym yn mynd ati i leihau troseddau treisgar, ond mae angen gwneud mwy i roi’r dull hwn ar waith yn gyson ledled Cymru a’r DU er mwyn amddiffyn y cyhoedd a lleihau’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus.”

Alun Michael Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru

#drinklessenjoymore

“Mae camau ymarferol Jon - megis ymgyrchu ar gyfer defnyddio gwydr gwydn i leihau anafiadau – wedi ysbrydoli rhai o'r ymgyrchoedd y mae fy nhîm wedi’u harwain, megis #drinklessenjoymore. Heddiw, rydym yn dathlu 20 mlynedd o arweiniad ymroddedig ac edrychwn ymlaen at wneud hyd yn oed yn rhagor gyda'n partneriaid i wneud de Cymru yn fwy diogel.”

Mae'r model yn cael ei weithredu o hyd ar draws Caerdydd, lle gwelir nifer yr anafiadau sy'n gysylltiedig â thrais yn parhau i ostwng. Mae'r model yn cael ei fabwysiadau gan ddinasoedd eraill mewn gwledydd ledled y byd fel yr Iseldiroedd, yr Unol Daleithiau, Awstralia a De Affrica.

Pan gafodd ei beilota 20 mlynedd yn ôl, roedd Model Caerdydd yn ffordd newydd sbon o atal trais drwy rannu data o ysbytai gyda'r heddlu ac awdurdodau lleol. Mae derbynyddion mewn adrannau achosion brys yn cofnodi’r union leoliad a’r arf a ddefnyddiwyd gan bobl a anafwyd mewn trais. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei gwneud yn ddienw ac fe’i chyfunir â data’r heddlu i lywio strategaethau a thactegau atal trais.

Dathlwyd pen-blwydd Model Caerdydd yn 20 oed mewn digwyddiad yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Roedd Prif Weithredwr Cyngor Dinas Caerdydd a Chomisiynydd Heddlu a Throseddau De Cymru ymhlith y gwesteion.

Rhannu’r stori hon

Rydyn ni’n lleihau’r nifer o droseddau treisiol drwy ymchwil newydd, defnydd newydd o ddata a chydweithio gwreiddiol rhwng meddygaeth a chyfiawnder troseddol.