Buddsoddiad o Tsieina mewn gwaith ymchwil ym maes y gwyddorau biofeddygol
23 Mehefin 2017
Mae Prifysgol Caerdydd yn ymuno â darparwr gwasanaethau gwyddorau biofeddygol blaenllaw o Tsieina, i edrych ar gyfleoedd ymchwil pwysig ym meysydd clinigol a biofeddygol.
Bydd Realcan, sy'n gweithio'n bennaf yn Tsieina, yn buddsoddi £1m yn y Brifysgol dros gyfnod o dair blynedd.
Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar brif themâu Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd: canser; biosystemau integreiddiol; y cof, ymennydd a niwrowyddoniaeth; imiwnoleg; haint a llid; ac iechyd y boblogaeth.
Bydd y buddsoddiad yn rhoi arian i fyfyrwyr PhD Realcan hefyd, i greu partneriaeth rhyngddynt â chlinigwyr blaenllaw a gwyddonwyr y gwyddorau biofeddygol, yn ogystal â chymrodyr ymchwil Realcan.
Mae gan y Brifysgol tua 40 o bartneriaethau ar draws China, ac maent yn cydweithio â Phrifysgol Peking ac Ysbyty Cyfeillgarwch Beijing (Prif Brifysgol Meddygaeth), yn rhan o Ymchwil Meddygol Cydweithrediadol Caerdydd Tsieina (CCMRC) sy'n canolbwyntio ar ymchwil oncoleg.
Prifysgol gydweithio
Prif sylfaen CCMRC yw'r Sefydliad Canser ar y Cyd rhwng Prifysgol Caerdydd â Phrifysgol Peking. Maent wedi bod yn cydweithio ers 1999, ac maent yn ymchwilio i achosion, diagnosis a thriniaeth canser.
Mae gan Brifysgol Caerdydd bartneriaeth gyda Phrifysgol Xiamen hefyd i gynyddu ymchwil ar y cyd, rhannu arferion gorau ym myd addysg, a chreu cyfleoedd i gyfnewid myfyrwyr a staff.
Yn ogystal, llofnodwyd memorandwm o gyd-ddealltwriaeth â Phrifysgol Sun Yat-sen gan Brifysgol Caerdydd ym mis Chwefror 2017, er mwyn i'r ddwy brifysgol gydweithio ym maes ymchwil canser y fron.
Caerdydd oedd y ddinas gyntaf yn y DU i efeillio â dinas yn Tsieina wrth ddod yn bartner â Xiamen dros 30 mlynedd yn ôl.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, a'r Llywydd: “Mae cysylltiadau cryf gennym â Tsieina, ac rwyf wrth fy modd bod gennym y cyfle i ddatblygu ein partneriaethau ymchwil llwyddiannus ymhellach yn y wlad...”
“Ymchwil gwyddonol arloesol a blaenllaw”
Dywedodd Wen G Jiang MBE o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, sy'n rhan o Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, yn gwneud gwaith ymchwil gwyddonol arloesol a blaenllaw ym maes meddygaeth, ac mae'r ymchwil wedi cael effaith go iawn ar fywydau pobl...”
Dyfarnwyd MBE (Member of the Order of the British Empire) i'r Athro Jiang yn 2017 am ei gyfraniad at waith ymchwil rhyngwladol i ganser. Yn rhinwedd ei waith ymchwil, mae wedi cydweithio'n eang â chydweithwyr yn y DU, Tsieina, Ewrop, Gogledd America ac Asia.
Dywedodd Mr Xu Han, Cadeirydd RealCan: “Rydym yn edmygu’n fawr y gwaith clinigol a biofeddygol a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd, un o arweinwyr y byd yn y math hwn o ymchwil...”
“Meddyginiaethau a therapïau newydd”
Dywedodd Mr Yongli Wang, Cwnselydd Gweinidog Addysg yn Llysgenhadaeth Tsiena yn Llundain:“Mae gan Tsieina hanes hir o weithio gyda sefydliadau yng Nghymru, a'r Deyrnas Unedig yn gyffredinol. Rydym yn croesawu'r cytundeb hwn rhwng Prifysgol Caerdydd ac un o'n cwmnïau mwyaf llwyddiannus.”
Dywedodd Mr Kevin Holland, Cwnselydd-Weinidog a Chyfarwyddwr y Gwyddorau Bywyd, Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Llysgenhadaeth Prydain yn Beijing: “Rwy'n falch iawn o weld y berthynas sy'n datblygu rhwng Realcan a Phrifysgol Caerdydd a'u rhaglen bartneriaeth. Rydym yn llwyr gefnogi eu nod o ddarganfod meddyginiaethau a therapïau newydd, sy'n defnyddio'r wyddoniaeth orau ym Mhrydain i wella bywydau cleifion yn y DU a Tsieina.”