Bywydau crefyddol morwyr rhyngwladol
23 Mehefin 2017
Bydd prosiect newydd gan Ganolfan Ymchwil Ryngwladol i Forwyr Prifysgol Caerdydd (SIRC) yn edrych ar brofiadau crefyddol ac ysbrydol morwyr a gweinidogion ymhlith caplaniaid porthladdoedd.
Bydd Religion in multi-ethnic contexts, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yn edrych ar natur profiadau crefyddol ac ysbrydol morwyr, caplaniaid porthladdoedd a gweithwyr lles.
Bydd y gwaith ymchwil yn cyfrannu at ddealltwriaeth y gymdeithas o sut y mae grwpiau aml-ffydd yn cyd-fyw’n heddychlon, a pha ffactorau allai amharu ar heddwch, neu ei fygwth, mewn poblogaethau o grefyddau amrywiol.
Bydd yn cynnig dealltwriaeth o anghenion ac arferion gweithwyr lles mewn porthladdoedd cyfoes a gweithwyr diwydiannol ar longau.
Bydd y prosiect yn defnyddio dulliau amrywiol gan gynnwys ethnograffeg ar longau ac mewn porthladdoedd, cyfweliadau a dadansoddiad dogfennol. Bydd data archifol hefyd yn cael ei gasglu, gan nodi datblygiad hanesyddol caplaniaeth ym mhorthladdoedd yn y DU.
Nod y prosiect yw gofalu bod sefydliadau sy'n gweithio mewn porthladdoedd yn rhoi mwy o ddarpariaeth ysbrydol; i gael gwell dealltwriaeth o sut y caiff crefydd ac ysbrydolrwydd eu mynegi, eu profi a'u trafod mewn porthladdoedd a gweithleoedd preswyl aml-wladol. Bydd hefyd yn edrych ar esblygiad crefyddol y tu hwnt i gynulleidfaoedd a safleoedd ffurfiol sydd wedi'u dynodi'n grefyddol.
Ymhlith y rhai sy'n cymryd rhan yn y gwaith ymchwil y mae'r Athro Helen Sampson, Cyfarwyddwr y Ganolfan; yr Athro Graeme Smith, Athro Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Chichester; yr Athro Sophie Gilliat-Ray, Athro Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddol ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr Canolfan Islam-UK y Brifysgol; Dr Nelson Turgo, cydymaith ymchwil yn y Ganolfan; a'r Athro Wendy Cadge, Athro Cymdeithaseg a Menywod, ac Astudiaethau Rhyw a Rhywioldeb ym Mhrifysgol Brandeis.
Dywedodd yr Athro Helen Sampson, Cyfarwyddwr y Ganolfan: “Bydd y prosiect hwn yn ein galluogi i ystyried yr heriau sy'n gysylltiedig â gweithio mewn sefyllfaoedd aml-ffydd cyfyngedig...”
Ychwanegodd yr Athro Sophie Gilliat-Ray, Cyfarwyddwr Canolfan Islam-UK Prifysgol Caerdydd: “Bydd y prosiect yn ein galluogi i edrych ar safbwyntiau caplaniaid porthladdoedd, sef y rhai sy'n rhoi gwasanaethau ysbrydol a lles i forwyr o wahanol grefyddau, wrth iddynt alw ym mhorthladdoedd ar draws y DU...”