Mynd i'r afael â bygythiadau ym myd seiberddiogelwch
23 Mehefin 2017
Mae prifysgolion Caerdydd a Coventry yn cydweithio er mwyn helpu i sicrhau bod y DU yn barod i ymateb i heriau polisi sy'n gysylltiedig â'r bygythiad cynyddol o ymosodiadau seiber.
Fel rhan o'r prosiect, sy'n werth £500 mil ac sydd wedi'i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, bydd arbenigwyr o'r ddwy brifysgol yn cydweithio i gynnig argymhellion i lunwyr polisïau'r DU ynglŷn â phrosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau am seiberddiogelwch.
Gan ddechrau'r mis hwn, bydd yr ymchwilwyr yn archwilio i sut mae llunwyr polisïau'n dewis, asesu ac yn blaenoriaethu tystiolaeth, sy'n dod o amrywiaeth eang o ffynonellau, gan gynnwys gwybodaeth swyddogol am fygythiadau, adroddiadau gan fyd diwydiant, a'r byd academaidd.
I'r elfen ddynol o seiberddiogelwch
Bydd y prosiect yn archwilio i'r elfen ddynol o seiberddiogelwch, ond bydd yn symud y pwyslais i ffwrdd o'r defnyddiwr – er enghraifft, busnesau a allai fod yn agored i fygythiadau – ac i weision sifil sy'n chwarae rhan allweddol o ran cynnig cyngor polisi yn y tymor byr a'r tymor hir ynglŷn â bygythiadau seiber.
Dywedodd Dr Madeline Carr, Darllenydd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae llunwyr polisïau seiberddiogelwch yn gweithio mewn amgylchiadau eithriadol o heriol. Mae adnabod ffyrdd o'u cefnogi'n well yn y broses o wneud penderfyniadau'n hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch gwladol y DU. Rydym yn ystyried y prosiect hwn yn gyfraniad pwysig at y nod hwnnw.”
Dywedodd Dr Siraj Shaikh, Darllenydd mewn Seiberddiogelwch ym Mhrifysgol Coventry: “Mae angen i'r DU fod ar flaen y gad wrth lunio polisïau i ymateb i bryderon seiberddiogelwch, er mwyn gallu ymateb yn gyflym i ddiogelu'r DU rhag ymosodiadau ar raddfa fawr, fel y digwyddiad WannaCry diweddar. Drwy'r prosiect hwn byddwn yn cynnig cyngor i'r llywodraeth a'i hasiantaethau fydd yn eu helpu i wneud penderfyniadau beirniadol.”