Gradd arian i'r Brifysgol yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu
22 Mehefin 2017
Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael gradd arian yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu newydd Llywodraeth y DU.
Nod TEF, sy'n cael ei dreialu yn 2017, yw cydnabod, gwobrwyo a gwella addysgu rhagorol ym maes addysg uwch.
Ar sail y dystiolaeth sydd ar gael, roedd panel TEF o'r farn ein bod yn rhoi deilliannau, addysg a chyfleoedd dysgu o safon i'n myfyrwyr. Mae gradd arian hefyd yn golygu bod y Brifysgol yn rhagori ar ofynion ansawdd cenedlaethol trylwyr ar gyfer addysg uwch yn y DU.
Nododd y Panel TEF Panel fod “myfyrwyr o bob cefndir yn cyflawni deilliannau ardderchog" a bod "cyfran uchel iawn o fyfyrwyr yn parhau â'u hastudiaethau ac yn mynd ymlaen i gael swydd, swydd hynod fedrus neu astudiaeth bellach”.
Tynnodd y Panel sylw at y dystiolaeth ganlynol:
|
|
|
|
Meddai’r Athro Amanda Coffey, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd ar gyfer Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd: “Rydym yn falch ein bod wedi cael gradd dda ar gyfer safon ein haddysgu a phrofiad ein myfyrwyr, ac yn awyddus i ddysgu gwersi yn sgil cymryd rhan yn y Fframwaith er mwyn gwella.
“Rydym yn herio ein myfyrwyr, ac yn cynnig cefnogaeth helaeth i'w galluogi i gyrraedd eu potensial...”
Ymysg rhai o’r cryfderau a nodwyd yng nghais Prifysgol Caerdydd i'r Fframwaith, roedd cefnogi rhagoriaeth addysgu, buddsoddi yn ein campws, symudedd byd-eang, dysgu a arweinir gan ymchwil, cyfraddau cadw myfyrwyr a sicrhau bod ein graddedigion yn barod ar gyfer byd gwaith.
Mae'r asesiad o brifysgolion yn y Fframwaith yn canolbwyntio ar ansawdd yr addysgu, yr amgylchedd dysgu a deilliannau i fyfyrwyr.
Mae’r asesiadau’n defnyddio amrywiaeth o ddata, gan gynnwys canlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, canlyniadau cyflogadwyedd graddedigion, cyfraddau cadw myfyrwyr a data ehangu cyfranogiad. Gwahoddwyd sefydliadau i gyflwyno naratif er mwyn cefnogi eu cais.
Caiff ceisiadau TEF eu hasesu gan banel adolygu sy'n cynnwys academyddion, cyflogwyr a myfyrwyr.