Lledaenu newyddion ffug yn dilyn ymosodiadau terfysgol
20 Mehefin 2017
Bydd sut mae newyddion ffug yn lledaenu ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn ymosodiadau terfysgol mawr, a beth y gall yr heddlu ei wneud i reoli ei effaith ar ymddygiad y cyhoedd, yn cael ei ddadansoddi am y tro cyntaf gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dan arweiniad Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch y Brifysgol, bydd yr ymchwil newydd yn ystyried y sibrydion, y damcaniaethau am gynllwynion, propaganda ideolegol a newyddion ffug ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn ymosodiadau terfysgol. Bydd hyn yn cynnwys llofruddiaeth Jo Cox AS yng nghyd-destun ymgyrch ehangach Brexit mewn cysylltiad â’r refferendwm a’r ymosodiadau yn San Steffan, Manceinion a Phont Llundain yn 2017.
Bydd y tîm hefyd yn dadansoddi negeseuon gan yr heddlu ar y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â deunydd a gyflwynir gan yr heddlu a’r sefydliadau diogelwch i reoli gwybodaeth anghywir.
Bydd astudio’r data hwn am y tro cyntaf yn helpu ymchwilwyr i ddeall sut mae newyddion ffug yn lledaenu yn dilyn troseddau a digwyddiadau diogelwch o bwys, yn ogystal â sut mae llwyfannau ac amgylcheddau digidol yn llywio ymddygiad cyfoes.
Rhwydwaith Gwrth-derfysgaeth Cenedlaethol
Caiff canlyniadau’r astudiaeth eu defnyddio i helpu’r heddlu i lunio a chyflwyno strategaethau cyfathrebu gwell ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n lleihau’r tensiwn mewn cymunedau a’r peryglon o anhrefn gyhoeddus yn dilyn ymosodiadau terfysgol. Drwy weithio gydag aelodau o’r Rhwydwaith Gwrth-derfysgaeth Cenedlaethol, bydd canfyddiadau’r astudiaeth yn helpu i lywio polisïau ac ymarfer yn y dyfodol ar gyfer sefyllfaoedd sy’n newid yn gyflym pan mae llawer o wybodaeth yn cael ei rhannu.
Meddai’r Athro Martin Innes, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch y Brifysgol fydd yn arwain yr ymchwil: “Yn ddiweddar, gwelwyd pryderon cynyddol ymysg gwleidyddion a’r cyhoedd ynghylch lledaeniad newyddion ffug a phropaganda ar y cyfryngau cymdeithasol a’r we, yn ogystal â llawer o awgrymiadau ynghylch sut i fynd i'r afael â’r broblem gymdeithasol newydd hon...”
Mae hwn yn un o wyth prosiect a gyhoeddwyd gan y Ganolfan Ymchwil a Thystiolaeth am Fygythiadau Terfysgol (CREST). Prifysgol Lancaster sy’n arwain y Ganolfan a’i nod yw mynd i’r afael â rhai o’r bygythiadau i ddiogelwch yn y DU.