Ymchwilwyr yn llygadu pot ymchwil gwerth biliynau o Ewros
29 Ionawr 2015
Gallai ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd a busnesau Cymru elwa ar gyfran o gyllid ymchwil gwerth biliynau o Ewros.
Mae gan Horizon 2020 gyllideb o €79 biliwn i ariannu miloedd o brosiectau ymchwil ledled Ewrop, ac mae'n cynnig potensial i brifysgolion a busnesau yrru arloesedd yng Nghymru.
Mae Caerdydd yn un o aelodau sefydlu Vision2020, sy'n gweithredu fel canolfan, yn cysylltu prifysgolion, sefydliadau ymchwil, cwmnïau mwy a busnesau bach a chanolig, i wneud y gorau o werth Horizon 2020.
Amlinellwyd y cyfleoedd ariannu i gynulleidfa o ymchwilwyr ac arweinwyr busnes yng Nghaerdydd gan Jasper Hemmes, o Asiantaeth Weithredol y CE ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig (EASME).
"Mae math hollol newydd o raglen - The SME Instrument – yn cynnig cyfleoedd newydd ar gyfer mentrau bach a chanolig hynod arloesol. Os oes gennych botensial cryf i dyfu, uchelgeisiau byd-eang a syniad gwych yn agos at y farchnad, gallwch gael hyd at €2.5 miliwn o ran cyllid a chymorth busnes o'r radd flaenaf," dywedodd Mr Hemmes.
Mae rhaglenni fel Leadership in Enabling and Industrial Technologies (LEIT) yn cynnig cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig gydweithio â sefydliadau ymchwil a thechnoleg (RTO) hefyd.
Yn y digwyddiad, dywedodd Abdul Rahim, Cyfarwyddwr Vision2020: "Erbyn hyn, mae gan rwydwaith Vision2020 dros 100 o aelodau o fusnesau bach a chanolig o bob cwr o'r DU, a lleoedd eraill yn Ewrop, ac mae'n ceisio gwella eu rhan yn 2020. Bwriad Vision2020 yw agor drysau ac adeiladu pontydd, ar gyfer ymchwilwyr ac arweinwyr busnes fel ei gilydd, ac mae'n cynnig cymorth ymarferol trwy ystod o wasanaethau arbenigol gan gynnwys ysgrifennu cynigion a materion cyfreithiol."
Roedd cynrychiolwyr yn cynnwys staff o Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) a Rhwydwaith Menter Ewrop yng Nghymru. Trefnwyd y digwyddiad gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, sy'n cysylltu sefydliadau busnes a chymorth busnes ag academyddion.