Athro o Gaerdydd yn traddodi darlith ICE fawreddog
4 Chwefror 2015
Mae Athro Ysgol Peirianneg Caerdydd, Yr Athro Roger Falconer, wedi traddodi darlith fawreddog Dugald Clerk Sefydliad y Peirianwyr Sifil ar gyfer 2015 ar y pwnc o ynni llanw.
Traddodir y ddarlith ddwyflynyddol, a gynhaliwyd yn Llundain ar bynciau sy'n gysylltiedig â pheirianneg fecanyddol a strwythurau dŵr neu arfordirol, a daeth yn ddarlith fawreddog ICE ar gyfer y sector dŵr.
Cafodd cyfres darlithoedd Dugald Clerk ei sefydlu ym 1938 yn dilyn cymynrodd gan Syr Dugald Clerk (1854-1932), a oedd yn gyn Ddirprwy Llywydd ICE
Mae'r Athro Roger Falconer yn gweithio yn y Ganolfan Ymchwil Hydro-amgylcheddol ac ef yw Athro CH2M HILL Rheoli Dŵr yn Ysgol Peirianneg Caerdydd.
Archwiliodd eu sgwrs, o'r enw Tidal Energy – Challenges and Opportunities, y pwnc o ynni llanw yng nghyd-destun prosiectau a chynigion cenedlaethol a rhyngwladol, wedi'i enghreifftio gan astudiaethau'r Ganolfan Ymchwil Hydro-amgylcheddol yn y maes.
Mae'r rhain yn cynnwys: Morglawdd Hafren, Morlin Tiroedd Cymru, morlynoedd Gogledd Cymru a thyrbinau echel fertigol newydd a ddyluniwyd gan yr Athro Thorsten Stroesser (sydd hefyd yn rhan o Ysgol Peirianneg Caerdydd).
Yn ei sgwrs, amlygodd Yr Athro Falconer y cyfleoedd sylweddol ar gyfer caffael ynni llanw adnewyddadwy o Fôr Hafren, wedi'u hategu gan ragor o gyfleoedd ar hyd arfordir Gogledd Cymru ac ardaloedd eraill lle mae cynhyrchu ynni allan o gydamseriad gan bedair awr gyda môr Hafren.
Yn ogystal, trafododd gynllun newydd y Ganolfan Ymchwil Hydro-amgylcheddol ar gyfer Morglawdd Hafren, sy'n mynd i'r afael â rhan fwyaf y pryderon a godwyd ynglŷn â'r cynllun Grŵp Pŵer Llanw Hafren blaenorol.