Adroddiad yn datgelu agweddau’r cyhoedd tuag at newid yn yr hinsawdd
29 Ionawr 2015
Mae canlyniadau astudiaeth newydd a arweinir gan y Brifysgol, a gyhoeddwyd flwyddyn ar ôl llifogydd mawr y gaeaf, yn dangos y cododd cred cyhoedd Prydain yn realiti newid yn yr hinsawdd a'i achosion dynol yn arwyddocaol y llynedd –mae ar ei huchaf er 2005, erbyn hyn.
Yn ogystal, gwelodd y tîm ymchwil fod llawer o bobl yn gweld bod newid yn yr hinsawdd wedi cyfrannu'n rhannol o leiaf i'r llifogydd yn y gaeaf.
Ym mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014, tarodd cyfres eithriadol o ystormydd gaeafol y DU, gan arwain at lawer iawn o lifogydd. Er ei fod yn anodd iawn priodoli unrhyw gyfres unigol o ddigwyddiadau'r tywydd i newid yn yr hinsawdd, rhagwelir y bydd tywydd eithafol o'r fath yn fwy aml a llym yn y DU o dan hinsawdd sydd wedi newid.
Aeth tîm ymchwil cydweithredol o Gaerdydd a Phrifysgol Nottingham ati i ddeall yn fanwl sut yr oedd cyhoedd Prydain wedi ymateb i'r llifogydd y gaeaf diwethaf. Er mwyn gwneud hyn, cynhaliwyd arolwg o sampl genedlaethol gynrychioladol o 1,002 o ymatebwyr o bob cwr o Brydain, ynghyd â grŵp pellach o 995 o bobl a dynnwyd o bum ardal o Gymru a Lloegr a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd y gaeaf diwethaf.
Gwelodd yr astudiaeth fod:
- Mwy o bobl yn barod i dderbyn realiti newid yn yr hinsawdd
- Mae bron 9 o bobl allan o 10 (88%) yn cytuno bod hinsawdd y byd yn newid, sef ffigwr sy'n uwch na'r polau yn y blynyddoedd blaenorol ac yn agos at y ffigwr o 91% a welwyd diwethaf yn 2005. Dim ond 6% oedd yn anghytuno bod yr hinsawdd yn newid.
- Datganodd 76% o ymatebwyr eu bod nhw yn bersonol wedi sylwi ar arwyddion o newid yn yr hinsawdd yn ystod eu hoes, a soniodd 39% am batrymau'r tywydd yn newid neu dywydd eithafol; soniodd 27% am law trwm, llifogydd neu lefelau'r afonydd yn codi; a soniodd 20% am newidiadau yn y tymhorau.
- Gwelwyd digwyddiadau'r llifogydd fel arwydd o'r hyn sydd i ddod
- Teimlwyd bod ffactorau amrywiol wedi cyfrannu 'cryn dipyn ' neu'n 'fawr iawn' i'r llifogydd a'i effeithiau: buddsoddi annigonol mewn amddiffyn rhag llifogydd (roedd 77% yn teimlo hyn), rheolaeth wael ar yr afonydd a'r arfordir (75%), datblygu, gan gynnwys mewn ardaloedd sy'n dueddol i gael llifogydd (73%), a newid yn yr hinsawdd (61%).
- Cytunodd mwyafrif clir o'r sampl genedlaethol (72%) â'r datganiad "Dangosodd y llifogydd i ni'r hyn y gallwn ei ddisgwyl yn y dyfodol o ran newid yn yr hinsawdd a dim ond 10% o'r cyhoedd a fynegodd eu bod yn anghytuno â hyn.
- Roedd pobl yr effeithiodd y llifogydd arnynt hyd yn oed yn fwy sicr am newid yn yr hinsawdd
- Dadansoddodd y tîm ymchwil ymatebion grŵp o 135 o unigolion o'r ardaloedd yr effeithiodd y llifogydd arnynt, yr oeddent oll wedi profi effaith uniongyrchol i'w heiddo gan ddyfroedd llifogydd y llynedd. Roedd y grŵp hwn hyd yn oed yn fwy argyhoeddedig o realiti a difrifoldeb newid yn yr hinsawdd.
- Nid yw'n syndod bod y bobl yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol yn adrodd am deimlo pryder, dicter a thrallod, ac roedd y cyhoedd yn fwy cyffredinol yn profi lefelau uchel o gydymdeimlad â nhw.
- Roedd newid yn yr hinsawdd yn llawer mwy amlwg ac uniongyrchol ar gyfres o fesurau gwahanol ymhlith y grŵp yr effeithiwyd arnynt fwyaf. Er enghraifft, roeddent fwy na dwywaith mor debygol (soniodd 29% amdano) na'r sampl genedlaethol (lle y soniodd dim ond 15% amdano) o enwi newid yn yr hinsawdd yn ddigymell fel un o'r tri o faterion pwysicaf sy'n wynebu'r DU yn ystod yr 20 mlynedd nesaf.
Dywedodd Yr Athro Nick Pidgeon o'r Ysgol Seicoleg, a arweiniodd y tîm a ymgymerodd â'r ymchwil:
"Mae ein canfyddiadau yn dangos bod cysylltiad rhwng llifogydd gaeaf y llynedd a newid yn yr hinsawdd yn ffurfio ym meddyliau llawer o bobl gyffredin ym Mhrydain, sydd hefyd yn gweld y digwyddiadau hyn fel arwydd o'r hyn sydd i ddod.
"Efallai y dylem ofyn a yw'n bryd i ni waredu amheuaeth ynglŷn â'r hinsawdd unwaith ac am byth, ac i wyddonwyr fod yn fwy penderfynol o ran dangos sut y daw ein tywydd yn fwy eithafol yn y dyfodol os na fyddwn yn gweithredu ar newid yn yr hinsawdd."
O ran cefnogaeth am gamau gweithredu gwleidyddol, dywedodd tua thri chwarter (74%) o bobl a gafodd eu harolygu yn y sampl genedlaethol y dylai'r DU lofnodi cytundebau rhyngwladol i gyfyngu ar allyriadau carbon, a dim ond 7% a wrthwynebodd y mesur hwn. Ychwanegodd Yr Athro Pidgeon: "Mae'r canfyddiad uchod yn anfon neges glir i lywodraeth y DU wrth iddi baratoi ar gyfer y gynhadledd ryngwladol hollbwysig ar yr hinsawdd i'w chynnal ym Mharis yn ddiweddarach eleni."
Cafodd yr ymchwil hwn ei ariannu gan Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) gyda chymorth ychwanegol gan Gonsortiwm Newid yn yr Hinsawdd Cymru a Sefydliad Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd. Cafodd ei gyflawni gan Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd ac yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Nottingham, ac ymgymerwyd â'r gwaith maes gan Ipsos MORI.