Rhoi Arloeswraig o Gymraes o America yn ôl ar y map hanesyddol
29 Ionawr 2015
Mae hanesydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn helpu i roi un o arloeswyr yr anghofiwyd amdanynt ers lawer dydd ar y map hanesyddol mewn rhaglen newydd sy'n taflu goleuni ar yr ysgrifennydd ac ymgyrchydd dros hawliau merched, sef Margaret Roberts.
Nid yw dadorchuddio hanesion coll yn beth dieithr i Bill Jones, sy'n Athro mewn Hanes Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Yr wythnos hon, gwelwn ei ymchwil gwreiddiol yn datgelu cyflawniadau amrywiol rhyfeddol ysgrifennydd o Gymraes anghofiedig o America o'r 19eg ganrif a hyrwyddodd hawliau merched ac a helpodd i hyrwyddo gwyddoniaeth mewn cyfres rhaglen hanesyddol newydd, sef Dylan ar Daith ar S4C [Dydd Sadwrn 31 Ionawr 2015].
Roedd bywyd Margaret Evans Roberts (1833-1921) yn llawn ac yn amrywiol: yn ddarlithydd, addysgwr, ysgrifennydd, ffrenolegydd, ymgyrchydd dros hawliau merched a dirwest, Cristion ymroddgar, esblygiadwr, hyrwyddwr a phoblogeiddiwr gwyddoniaeth, roedd hi hefyd yn wraig i groser, yn wraig i ffermwr ac yn cadw siop esgidiau mewn bywyd anhygoel.
Datgelir ei hanes yn Dylan ar Daith - O Hirwaun i Iowa, pan fydd y cyflwynydd Dylan Iorwerth yn teithio mewn amser i Hirwaun, Efrog Newydd, Iowa a Scranton i ddysgu rhagor am yr ysgrifennydd a'r ymgyrchydd dros hawliau merched o Gymraes o America oedd yn adnabyddus i aelodau cymuned y Gymraeg ledled y byd mewn cannoedd o erthyglau ar ystod ddisglair o bynciau yn Y Drych.
Darganfyddodd Bill Margaret Roberts am y tro cyntaf wrth iddo wneud ymchwil ar gyfer ei ddoethuriaeth ar y Cymry ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif yn Scranton, Pennsylvania, gan ddatgelu cyfeiriadau ati fel yr unig gyfranogwr benywaidd yn nhrafodaethau Cymdeithas Athronyddol Cymru yn y ddinas yn yr 1880au a'r 1890au.
"Yn ystod ei hoes hir bu'n byw yng Nghymru, Iowa a Pennsylvania, cyn dychwelyd i Gymru. Yn ystod ei bywyd, fe'i gwelwyd fel un o'r ysgrifenwyr Cymraeg mwyaf dawnus o'r naill ryw neu'r llall yn America a Chymru - yn enw adnabyddus iawn. Yn ferch i grydd a thyddynwr yn sir Gaerfyrddin wledig, o ganol ei phedwardegau ymlaen, ymroddodd i herio uniongrededd cyffredinol ac i hyrwyddo ffeministiaeth a syniadau newydd ym maes gwyddoniaeth, " esbonia.
I hanesydd, mae Margaret Roberts yn enghraifft ddisglair o sut addasodd ymfudwyr o Gymru i America i ddiwylliannau a syniadau newydd mewn gwlad newydd, tra ar yr un pryd yn ceisio cadw eu hiaith a ffordd o fyw frodorol.
Ymhelaetha Bill: "Mae ei bywyd a'i chyflawniad yn berthnasol heddiw oherwydd ei brwydr ar ran hawliau merched a'u cydraddoldeb â dynion. Yn ogystal, mae ei hanes yn ein hatgoffa o bwysigrwydd ymchwilio ac adfer bywydau ac effaith pobl a fu'n bwysig yn y gorffennol ond sydd am wahanol resymau wedi diflannu o'r cofnod hanesyddol sy'n goroesi.
"Bu ymchwilio i'w bywyd yn anodd a chymerodd llawer o amser oherwydd ni adawodd unrhyw bapurau personol neu gasgliad o ysgrifau, ond bu'n bos hynod ddiddorol i'w datrys, ac rwyf wrth fy modd bod fy ymchwil bellach yn sicrhau y caiff Margaret Roberts ei rhoi yn ôl ar y cofnod hanesyddol unwaith eto," ychwanega.