Cymru yn San Steffan
12 Chwefror 2015
Heno, gan edrych ymlaen at yr Etholiad Cyffredinol, bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru'r Brifysgol yn cynnal y gyntaf mewn cyfres o areithiau gan arweinwyr Cymru yn San Steffan.
Bydd Owen Smith AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru'r Wrthblaid, yn defnyddio'i araith i alw am gyfnod newydd o weithio mewn partneriaeth, parch a chydraddoldeb rhwng llywodraethau San Steffan a Chymru.
Dyma'r ddarlith gyntaf yng nghyfres Cymru yn San Steffan, a fydd yn gweld arweinwyr yn cynnig safbwyntiau unigryw mewn perthynas â meddylfryd y pleidiau gwleidyddol a dyfodol Cymru a'r DU yn fwy cyffredinol.
Wrth siarad cyn y ddarlith, dywedodd Owen Smith, Ysgrifennydd Gwladol Cymru'r Wrthblaid: "Mae'n anrhydedd cael y cyfle i gyflwyno'r ddarlith gyntaf yng nghyfres Cymru yn San Steffan. Dyma gyfle pwysig, cyn cynhadledd flynyddol Llafur Cymru, i danlinellu'r heriau gwleidyddol mae'r Gymru fodern a'r DU yn eu hwynebu, yn ogystal â chyflwyno'r angen am gyfnod newydd o weithio mewn partneriaeth go iawn, a pharch a gwerthoedd cyffredin rhwng ein llywodraethau."
Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru: "Gan edrych ymlaen at un o'r etholiadau cyffredinol mwyaf anrhagweladwy mewn bron i ganrif, rydym ni'n falch iawn o gyflwyno cyfres o ddarlithiau cyhoeddus a fydd yn cynnig mewnwelediad unigryw i feddylfryd ein pleidiau gwleidyddol mewn perthynas â dyfodol Cymru a'r DU yn fwy cyffredinol.
"O ystyried bod y Blaid Lafur wedi goruchafu tirlun etholiadol Cymru ers nifer o genedlaethau, mae'n hynod addas mai Owen Smith, Aelod Seneddol Pontypridd, yw'r siaradwr cyntaf. Owen Smith yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru'r Wrthblaid ar hyn o bryd, ond ymhen rhai wythnosau, mae'n bosibl y bydd Owen yn cymryd yr awenau yn Nhŷ Gwydyr. Mae ei safbwyntiau o bwys ac edrychwn ymlaen at eu clywed a'u trafod yn ei gwmni."
Cynhelir y ddarlith am 5pm ddydd Iau 12 Chwefror 2015 yn Narlithfa Birt Acres, Adeilad Bute, Prifysgol Caerdydd. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, cliciwch yma.
Y siaradwyr eraill yng nghyfres Cymru yn San Steffan yw Pippa Bartolotti o Blaid Werdd Cymru (24 Chwefror), Elfyn Llwyd, AS Plaid Cymru (26 Chwefror), Mark Williams, AS Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (12 Mawrth) a Nathan Gill, ASE UKIP Cymru (19 Mawrth).