Peiriannwr yn cael ei gynnwys ar restr fer sy’n anrhydeddu ‘cyflawniadau arbennig’
12 Chwefror 2015
Mae peiriannwr o'r Brifysgol sydd wedi arloesi ym maes sganio uwchsain wedi cael ei gynnwys ar restr fer gwobr sy'n cydnabod cyflawniadau arbennig gan bobl yng Nghymru.
Mae'r Athro Peter Wells o'r Ysgol Peirianneg wedi cael ei enwebu yng nghategori 'Arloesi a Thechnoleg' Gwobrau Dewi Sant.
Sefydlwyd y gwobrau gan Lywodraeth Cymru yn 2014 i ddathlu cyflawniadau pobl ysbrydoledig sydd wedi gwneud gwahaniaeth yng Nghymru.
Y llynedd, cafodd yr Athro Jonathan Shepherd o Ysgol Deintyddiaeth y Brifysgol ei gynnwys ar restr fer yr un wobr.
Dywedodd yr Athro Wells ei fod wrth ei fodd yn cael ei gynnwys ar y rhestr fer a bod yr enwebiad yn syndod llwyr iddo.
Cyhoeddir yr enillwyr yn ystod digwyddiad ym mis Mawrth.
Mae gwaith yr Athro Wells o ran datblygu offer sganio uwchsain meddygol wedi cyfrannu at welliannau aruthrol ym maes gofal iechyd o'r 1960au hyd heddiw.
Ar hyn o bryd, mae wrthi'n datblygu math newydd o sganiwr uwchsain CT i'w ddefnyddio i sgrinio bronnau, yn ogystal â cheisio datblygu math llawer cyflymach o sganio uwchsain.
Mae sgan uwchsain yn defnyddio tonnau sain tonfedd uchel i greu delwedd o ran o'r tu mewn i'r corff.
Disgrifiodd yr Athro Wells sut gwnaeth ei waith ymchwil chwyldroi arferion clinigol:
"Roedd sganwyr uwchsain yn dechrau cael eu cyflwyno ac roedd nifer ohonynt yn defnyddio baddonau dŵr," esboniodd.
"Roedd fy un i yn rhatach, yn hawdd i'w ddefnyddio ac nid oedd yn defnyddio baddon dŵr, felly cafodd ei fabwysiadu.
"Cafodd ei ddefnyddio o amgylch y byd am oddeutu pymtheg mlynedd."
Heddiw, sganiau uwchsain yw'r ail fath mwyaf cyffredin o dechneg diagnosis delweddol ar ôl pelydrau-X.
"Nid oeddwn yn sylweddoli faint o effaith roeddwn wedi ei chael tan i mi ddechrau ennill medalau am fy ngwaith!"
Yn 2013, derbyniodd yr Athro Wells Fedal Frenhinol gan y Gymdeithas Frenhinol, sef academi genedlaethol y gwyddorau yn y DU, mewn perthynas â'i waith ymchwil; a'r llynedd, rhoddodd yr Academi Frenhinol Peirianneg Fedal Syr Frank Whittle iddo.
Dywedodd yr Athro Wells, a weithiodd ym Mryste yn ystod dyddiau cynnar ei yrfa, fod Prifysgol Caerdydd yn lle cefnogol tu hwnt i weithio.
"Mae Caerdydd yn gefnogol iawn o arloesi. Mae'n annog arloesi rhydd, yn hytrach na gofyn i bobl i weithio a dilyn yr un llwybrau."